Watkins: Ymchwiliad cam-drin i barhau

  • Cyhoeddwyd
Ian WatkinsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr erlynydd, roedd Ian Watkins yn "derbyn ei fod yn bidoffeil penderfynol"

Mae'r heddwas fu'n arwain yr ymchwiliad i droseddau cam-drin plant gan Ian Watkins wedi dweud y bydd yr ymchwiliad yn parhau.

Plediodd canwr y grŵp Lostprophets yn euog i 11 cyhuddiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth, gan gynnwys dau o geisio treisio plentyn ifanc iawn.

Yn wreiddiol roedd yn wynebu 24 cyhuddiad gan gynnwys treisio babi. Roedd yn gwadu hynny ac fe dderbyniodd yr erlyniad ei bleon ar y cyhuddiadau eraill.

Roedd wedi cynllwynio gyda dwy fam i gam-drin eu plant. Plediodd y ddwy - na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol - hefyd yn euog i gyfres i gyhuddiadau.

'Gweithio'n ddiflino'

Disgrifiwyd yr achos gan y Ditectif Prif Arolygydd Peter Doyle fel "y dystiolaeth fwyaf brawychus a syfrdanol o gam-drin plant i mi weld erioed".

Dywedodd hefyd y byddai'r chwilio am ddioddefwyr eraill yn parhau.

"Mae'r ymchwiliad wedi bod yn hynod gymhleth a heriol gyda gwybodaeth allweddol a thystiolaeth yn cael ei gasglu o dystion ar draws y byd," meddai.

"Fe gafodd maint sylweddol o ddata electroneg ei gadw o gyfrifiaduron a storfeydd ar y we, gan brofi'n dystiolaeth hanfodol i gefnogi'r achos.

"Gweithiodd Heddlu'r De mewn partneriaeth ag Interpol, heddluoedd eraill, Canolfan CEOP (Child Exploitation and Online Protection), awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, Adran Ddiogelwch Cartref America a'r NSPCC.

"Nid yw canlyniad yr achos yn nodi diwedd ein hymchwiliad ac fe fyddwn yn gweithio'n ddiflino i geisio canfod unrhyw ddioddefwyr neu dystion gan geisio cael y cyfiawnder y maen nhw'n ei haeddu.

"Uwchben popeth mae'r ymchwiliad yma wedi canolbwyntio ar warchod plant, ac mae fy meddyliau gyda'r rhai sydd wedi dioddef.

"Byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan yr achos hwn neu achosion eraill o gam-drin plant i gysylltu gyda Heddlu De Cymru ar 029 2063 4184, neu'r NSPCC ar 0808 800 5000."