Peaches Geldof yn ymddiheuro am drydar
- Cyhoeddwyd
Mae Peaches Geldof wedi ymddiheuro am drydar enwau dwy fam oedd yn euog o gynorthwyo Ian Watkins o'r grŵp Lostprophets i gam-drin eu plant.
Cyhoeddodd merch sefydlydd Band Aid Bob Geldof gyfres o sylwadau ar ei gwefan Twitter yn egluro ei bod yn credu fod enwau'r ddwy eisoes "yn wybyddus i'r cyhoedd".
Ddydd Mawrth fe blediodd canwr Lostprophets Ian Watkins yn euog i gyfres o gyhuddiadau, gan gynnwys ceisio treisio babi. Plediodd dwy fenyw yn euog i nifer o gyhuddiadau hefyd.
Yn sgil cyhoeddi'r enwau ar wefan Twitter mae Heddlu'r De wedi dweud eu bod yn trafod y mater gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS).
Deellir fod Peaches Geldof wedi trydar enwau'r ddwy i'w 160,000 o ddilynwyr wedi iddi ddarllen yr enwau ar wefan o'r Unol Daleithiau.
Dywedodd: "Rwyf wedi dileu'r trydar, ac yn ymddiheuro am unrhyw dramgwydd."
Bydd Watkins, 36 oed o Bontypridd, a'r ddwy fenyw yn cael eu dedfrydu fis nesaf.
Gall unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan yr achos, neu achosion eraill o gam-drin plant, gysylltu gyda Heddlu'r De ar 029 2063 4184 neu ffonio'r NSPCC ar 0808 800 5000.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2013