Fersiwn opera o Under Milk Wood yn 2014
- Cyhoeddwyd
Bydd fersiwn opera o Under Milk Wood yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn 2014 mewn gŵyl i ddathlu can-mlwyddiant geni Dylan Thomas.
Lleoliad y ddrama yw pentref dychmygol glan-môr Llareggub ac ymhlith ei chymeriadau mae Capten Cat, Myfanwy Price, Polly Grater ac Organ Morgan.
John Metcalf sydd wedi cyfansoddi'r opera.
"Cefais fy ngeni yn Abertawe fel Dylan Thomas a dwi'n byw yng ngorllewin Cymru, hynny yw lleoliad y ddrama.
"Rwyf yn teimlo cysylltiad greddfol gyda'r gwaith eiconig."
Ymhlith gweithiau eraill Mr Metcalf mae A Chair in Love, Kafka's Chimp, Paths of Song, Never Odd or Even a Mapping Wales.
Bydd wyth canwr a phump offerynnwr yn perfformio'r gwaith yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe, rhwng Ebrill 3 a 5.
Yna bydd y cynhyrchiad yn mynd ar daith i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth (Ebrill 8-9), Sherman Cymru, Caerdydd (Ebrill 11-12), Galeri, Caernarfon (Ebrill 15) a Theatr Colwyn, Bae Colwyn (Ebrill 17).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd27 Mai 2013
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2012