Atgyweirio morglawdd Y Rhyl i ddechrau ar ôl 'Dolig
- Cyhoeddwyd
Bydd gwaith atgyweirio morglawdd Y Rhyl yn digwydd ar ôl y Nadolig cyn y llanw mawr nesaf ym mis Ionawr.
Yng nghanol stormydd yr wythnos diwethaf lle gwelwyd llifogydd yn y dref, malwyd darn o'r morglawdd yn agos i'r clwb golff yno.
Mi fydd yr atgyweirio yn digwydd wedi i ddarnau newydd i'r morglawdd gael eu gwneud dros y pythefnos nesaf.
Fe fydd y bwlch yn y wal yn cael ei atgyweirio wrth i ddarn o goncrit cael ei gastio yn y fan.
Ond, ateb dros dro i'r bwlch ydi hyn.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu adeiladu rhan newydd o goncrid cyfnerth, wedi ei orffen mewn carreg, yn arbennig i'r morglawdd.
Ar hyn o bryd mae rhesi o fagiau tywod wedi cael eu rhoi yno fel amddiffynfa dros dro. Yn ôl y cyngor dylai'r rhain weithio yn ystod y stormydd mwyaf eithriadol.
Hefyd, mi fydd gwaith yn cael ei wneud i'r wal ar ddiwedd Ffordd Garford.
Asesu
Meddai aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Gyngor Sir Ddinbych, Denis Smith: "Maen peirianwyr wedi bod allan yn asesu'r difrod ac yn edrych ar yr opsiynau i atgyweirio rhannau o'r morglawdd sydd wedi eu niweidio neu ddinistrio yn nhywydd eithriadol yr wythnos diwethaf
"Rydym yn gweithio mor sydyn â phosib er mwyn tawelu meddylia'r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio.
"Ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar helpu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y storm."
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r llifogydd a effeithiodd rhannau o ogledd Cymru'r wythnos ddiwethaf.
Yn y Cynulliad dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Alun Davies y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain ymchwiliad gyda'r holl awdurdodau lleol a gafodd eu heffeithio yn cymryd rhan.
Cafodd 130 o dai eu heffeithio wrth i wyntoedd cryf a llanw uchel godi lefel y môr ar arfordir gogledd Cymru ac mae'r cyngor yn dweud eu bod wedi dod o hyd i lety i dros 50 o bobl wedi'r llifogydd.
Er mai'r Rhyl gafodd ei effeithio gwaethaf roedd yna ddifrod i wal forol Mostyn yn ogystal â'r rheilffordd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2013