Tywydd: 'Byddwch yn wyliadwrus'
- Cyhoeddwyd
Mae'r awdurdodau'n dal i rybuddio pobl i fod yn wyliadwrus oherwydd effeithiau'r glaw trwm a gwyntoedd cryfion.
Bu farw menyw ger Bethesda yng Ngwynedd. Cred y Gwasanaeth Tân ei bod wedi mynd allan i wirio'r cyflenwad dŵr i'w chartref ond cafwyd hyd i'w chorff yn Nant Ffrancon.
Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.
Mae manylion yr holl rybuddion llifogydd ar y wefan hon., dolen allanol
Ychydig wedi 1pm cwympodd coeden ar linellau trydan yn Heol Sterry yn Nhregwyr a chafodd criw o ddiffoddwyr o Orseinon ei alw. Doedd dim sôn am anafiadau.
Ceblau
Tarodd coeden geblau trydan brynhawn Mawrth yn Waungron, Pontarddulais ger Abertawe a chafodd Heol Pentre ei chau i'r ddau gyfeiriad.
Cafodd Heol Woodfield yn Nhreforys, Abertawe, ei chau ychydig wedi 2pm am fod llechi wedi eu chwythu o adeilad tri llawr.
Yn y cyfamser, dywedodd y gwasanaeth tân fod criw'n pympio dŵr o dai yn Heol y Bont yn Llandysul.
Cafodd y criw alwad am 11.27 fore Mawrth.
Roedd un lôn ar agor ar yr M48 Pont Hafren a chyfyngiad o 40 mya mewn grym a'r A477 Pont Cleddau ar gau i gerbydau uchel am gyfnod oherwydd y gwyntoedd cryfion.
Cafodd rhannau o'r A4077 eu cau ger Crughywel a'r A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd, yn enwedig ger Llangatwg.
Gyrru'n anodd
Oherwydd y gwyntoedd roedd rhybudd fod gyrru'n anodd ar yr A55 Pont Brittania rhwng Gwynedd ac Ynys Môn ac roedd cyfyngiad o 30 mya mewn grym.
Roedd problemau ar Bont Llansawel ger Castell-nedd a chyfyngiad o 30 mya mewn grym.
Dywedodd cwmni Irish Ferries eu bod wedi canslo'r teithiau o Gaergybi i Ddulyn am 11:50am fore Mawrth ac o Benfro i Rosslare am 7:35am a 2:45pm.
Roedd y cwmni'n ymddiheuro am hynny, gan feio'r amodau anodd ar y môr.
Roedd adroddiadau bod llifogydd ar yr A478 rhwng y B4332 (Blaenffos) a'r B4546 (Aberteifi).
Dylai gyrwyr fod yn ofalus am fod llifogydd ar yr A487 rhwng A489 Heol Maengwyn (Machynlleth) a'r B4353 (Tre'r-ddol) ac ar yr A490 rhwng y B4388 (Ffordun) a'r A458/A483 (Y Trallwng).
Oherwydd bod Afon Dyfrdwy wedi gorlifo roedd llifogydd ar y B5426 yn Wrecsam.
Ni fydd rasys ceffylau yn Ffos Las ger Llanelli Ŵyl San Steffan am fod y trac o dan ddŵr.
Dywedodd y rheolwr cyffredinol Tim Long: "Roedd 22 o filimedrau o law ddoe drwy gydol y dydd.
"Y teimlad oedd y dylen ni benderfynu heddi a rhoi gwbod i bawb."
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw mewn sawl man dros nos i ddelio gyda'r trafferthion.
Rhybuddion
Er iddyn nhw gael noson ddistaw yn y gogledd, cafodd criwiau o ddiffoddwyr y canolbarth a'r gorllewin eu galw i ddelio gyda llifogydd yng Nghrughywel, Caerfyrddin, Arberth, Saundersfoot a Hendy-gwyn ar Daf.
Cafodd criwiau'r de eu galw i'r Fenni, Brynbuga, Porth, y Coed Duon, Casnewydd a Threfynwy.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, dolen allanol, gwynt fydd y broblem fwyaf ddydd Mawrth gyda chymysgedd o heulwen a chawodydd er y gallai'r cawodydd yna droi'n aeafol ar dir uchel.
Mae disgwyl gwyntoedd i hyrddio ger arfordir y gogledd.
Fe fydd y tywydd yn gostegu rhywfaint dros nos ond fe fydd hi'n oer nos Fawrth gyda'r tymheredd yn disgyn islaw'r rhewbwynt.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2013