Glaw trwm a gwyntoedd cryf yn achosi problemau
- Cyhoeddwyd
Mae gwyntoedd cryfion a glaw trwm wedi achosi problemau mewn sawl ardal yng Nghymru a'r gwynt wedi cyrraedd 87 mya.
Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd oren ar gyfer rhannau o'r de, y de-orllewin a'r canolbarth.
Mae oren yn golygu y dylai pobl "baratoi" ar gyfer y tywydd garw.
Mae manylion yr holl rybuddion ar y wefan hon. , dolen allanol
'Glaw trwm'
Dywedodd Llŷr Griffiths-Davies, cyflwynydd tywydd BBC Cymru: "Bydd glaw trwm ar draws rhannau helaeth o'r wlad heddiw a thros nos, gyda 20-40mm o law'n debygol a hyd yn oed 60mm ar dir uchel.
"Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio pobl i fod yn barod am y glaw trwm, yn arbennig mewn mannau yn y de," meddai.
"Bydd y gwyntoedd cryfion yn parhau hefyd. Mae hyrddiadau o 87 mya wedi eu cofnodi yn ardal Capel Curig, gyda hyrddiadau o 71 mya yn Aberdaron, a 72 mya ym Mhenbre."
Dywedodd cwmni Stena fod y llongau fferi canlynol o Gaergybi wedi eu canslo: y Stena Adventurer am 2.30 yb ddydd Mawrth, y Stena Nordica am 8.55 yb ddydd Mawrth a'r Stena HSS am 10.30 ddydd Gwener.
Dylai teithwyr ffonio'r cwmni ar 08447 707070 neu Ferrycheck ar 08705 755755.
Ar Bont Britannia roedd cyfyngiad o 30 mya mewn grym.
Roedd llifogydd ar yr A494 yn Llanuwchllyn, ar yr A4244 yng Nghwm-y-glo ger Llanberis - lle bu raid i ddynes adael ei char- ac ar yr A543 rhwng Dinbych a Groes.
Hefyd roedd llifogydd yng nghyffiniau'r Traeth Coch ar Ynys Môn, yr A499 yng Nghlynnog Fawr a Rhostryfan ger Caernarfon.
Ger Porthmadog cafodd yr A497 ei rhwystro'n rhannol gan fod car wedi torri i lawr dan bont y rheilffordd.
Yng Nghonwy cafodd y ffordd ei rhwystro'n rhannol gan fod lori wedi torri lawr wrth gyffordd 18 yr A55 ar y gylchfan.
Yn Sir Ddinbych roedd yr A5 yng Nglyndyfrdwy o dan ddŵr rhwng troad Carrog a Llangollen ac angen gyrru'n ofalus.
Roedd yr A528 rhwng Owrtyn a Marchwiel ger Wrecsam ar gau oherwydd llifogydd a'r A539 ger Cross Foxes.
Ac roedd yr A539 rhwng Rhiwabon a Wrecsam ar gau i'r ddau gyfeiriad.
Llifogydd
Ym Mhowys yn Llanhamlach roedd llifogydd ar yr A40 ac yn LLanfihangel Tal-y-llyn roedd y ffordd wedi ei chau.
Yn Aberystwyth roedd Coedlan y Parc ar gau i'r ddau gyfeiriad, rhwng cylchfan Heol Alexandra a thafarn y Starling Cloud wedi i ran to adeilad gael ei chwythu i ffwrdd.
Yn ardal Pont Senni roedd yr A40 ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Pont Senni a'r Halfway wedi i goeden ddisgyn.
Ar Ffordd Osgoi Aberhonddu roedd rhywfaint o ddŵr rhwng cylchfannau Tarrell a Brynich
Yn Y Fenni roedd llifogydd ar Heol Trefynwy yr A40 rhwng Heol Blaenau'r Cymoedd a Heol Plas Derwen.
Ar gau
Yn Sir Benfro roedd Pont Cleddau ar gau am gyfnod i gerbydau uchel a beiciau modur.
Ar Bont Llansawel roedd cyfyngiad o 40 milltir yr awr
Yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ar draphont Cynffig rhwng cyffyrdd 37 a 38 o'r M4 roedd cyfyngiad o 50 milltir yr awr.
Yn ardal Aberpennar roedd Heol Llanwynno wedi'i chau gan fod ceblau trydan wedi syrthio.
Yn ardal Aberdâr ar y ffordd osgoi, yr A4059, roedd llifogydd ger cylchfan Tesco ac adroddiadau nad oedd cerbydau yn y dŵr yn gallu symud.
Yn Sir Fynwy roedd yr M48 Pont Hafren ar gau i gerbydau uchel, un lôn ar agor i'r ddau gyfeiriad a chyfyngiad o 40 milltir yr awr mewn grym.
Cafodd dau eu hachub oedd mewn cerbyd ger Pont yr Abaty yn Nhrefynwy.
Dywedodd y gwasanaeth tân fod dwy droedfedd o ddŵr ar y ffordd a bod y ddau wedi eu cludo mewn cwch.
Ar Heol Blaenau'r Cymoedd roedd llifogydd rhwng cylchfannau Tredegar a'r Rassau a rhwng cylchfan Hirwaun a Llwydcoed.
Roedd llifogydd ar yr A470 rhwng Heol Blaenau'r Cymoedd a Nantddu a chafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng cylchfan Cefn Coed a chylchfan Dowlais Top.
Yn Nhredegar roedd yr A4048 i'r ddau gyfeiriad ar gau am gyfnod oherwydd llifogydd rhwng Heol Beaufort (Tredegar) a Rhodfa'r Rheilffordd (Hollybush).
Roedd yr A467 ar gau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod rhwng y B4591 (Abercarn) a'r B4591 (Cylchfan Cwmcarn).
Roedd yr A472 ar gau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod yn y Felin Fach, Sir Fynwy.
Oedi
Yn Sir Gâr yn Alltwalis ar yr A485 cafodd ceuffosydd eu rhwystro
Ym Mhontantwn roedd coeden fawr yn rhwystro'r ffordd a thraffig yn cael ei ddargyfeirio.
Yng Nghastell Newydd Emlyn, ar Stryd y Castell, cafodd to'r neuadd ei chwythu ar y ffordd a chafodd traffig ei ddargyfeirio
Doedd dim gwasanaeth trên rhwng Pontypridd ac Aberdâr, Treherbert a Merthyr.
Oherwydd llifogydd yn Llanaber roed y lein rhwng Y Bermo a Phwllheli ar gau.
Roedd y lein rhwng Llanelli a'r Amwythig ar gau am fod coeden wedi syrthio yng Nghynghordy.
Cafodd y lein rhwng Y Drenewydd a'r Trallwng a rhwng Y Drenewydd ac Aberystwyth ei chau.
Cafodd gwasanaeth Trenau Arriva Cymru rhwng Casnewydd a Henffordd ei atal am y tro oherwydd llifogydd. Does dim gwasanaethau eraill yn rhedeg yn eu lle. Bydd tocynnau'n cael eu derbyn ar drenau yfory.
Dywedodd llefarydd ar ran y corff amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'r rhagolygon diweddar yn dangos glaw trwm parhaus fydd yn para tan ddydd Mawrth, Noswyl y Nadolig.
"Tra bydd y rhan fwyaf o Gymru yn cael glaw trwm rywbryd yn ystod y diwrnod, yr ardaloedd sy'n debygol o gael eu heffeithio fwyaf yw de Cymru, y gorllewin a'r canolbarth."
Achos bod y tir yn wlyb yn barod ar ôl dyddiau o law mae 'na fwy o bosibilrwydd o lifogydd, meddai'r corff.
Mae'r rhybudd melyn - "byddwch yn ymwybodol" - yn parhau mewn rhannau eraill o Gymru, gan gynnwys y gogledd.
Gostegu
Dywedodd Llŷr Griffiths-Davies fod disgwyl i'r stormydd ostegu erbyn Dydd Nadolig.
"Bydd y gwyntoedd cryfion yn parhau ddydd Mawrth, gyda nifer o gawodydd hefyd.
"Gallai'r cawodydd hyn fod yn rhai gaeafol ar dir uchel, gyda chyfnodau brafiach yn bosib rhwng y cawodydd.
"Ddydd Mercher dylai'r cawodydd gilio. Bydd ychydig o rew mewn mannau ar y cychwyn, gyda rhai cawodydd fan hyn a fan draw. Mae cesair a mellt a tharanau'n bosib ar brydiau yn y gorllewin."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2013