Glaw trwm a gwyntoedd cryf

  • Cyhoeddwyd
Coed ar ffyrddFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Roedd coed wedi cwympo ar ffyrdd yn broblem gyffredinol

Dylai pobl fod yn wyliadwrus wrth i law trwm a gwyntoedd cryf effeithio ar rannau o Gymru.

Mae manylion rhybuddion ar y wefan hon, dolen allanol ac roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren o dywydd garw tan 6pm, yn enwedig yn y gogledd-orllewin.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd: "Yn ystod y dydd fe fydd hyrddiadau o hyd at 70 mya yn gyffredinol, hyrddiadau o 80 mya ar yr arfordir a thir uchel.

"Dylai'r cyhoedd fod yn barod ar gyfer amharu ar drafnidiaeth a chyflenwasau pwer."

Dywedodd llefarydd ar ran ScottishPower amser te: "Ar hyn o bryd mae 4,200 o gartrefi heb gyflenwad yng Ngogledd Cymru ac eisoes mae 16,800 o gwsmeriaid yng Nghymru wedi eu hailgysylltu ers y storm neithiwr.

'Llinellau trydan'

Amser cinio dywedodd: "Y broblem fwya' yw coed yn taro llinellau trydan ... a'r ardaloedd gwaetha' yw Ynys Môn lle mae 4,500 o dai heb drydan a Gwynedd lle mae 2,500 heb drydan."

Dywedodd fod cynnal a chadw arferol wedi ei ganslo a bod mwy o beirianwyr wedi eu galw.

"Fe wnawn ni geisio adfer y cyflenwad cyn gynted ag y bo modd ond mae ffyrdd a phontydd wedi eu blocio a hyn a'r gwyntoedd cryf yn rhwystro ein gwaith ni."

Roedd y gwynt yn 109 mya rhwng 11pm a 11.40 yn Aberdaron nos Iau ac yn 102 fore Gwener rhwng 7 ac 8am.

Yng Ngwynedd roedd Pont Britannia ar gau i gerbydau uchel a choed yn blocio'r A4085 rhwng Caeathro a Waunfawr a'r A4086, ffordd osgoi Llanberis.

Roedd y ffyrdd rhwng Y Groeslon a Charmel, Fron a Rhosgadfan a ffordd gefn Pont Tŵr ger Bethesda ar gau.

Llechi

Am fod nifer o lechi wedi cwympo ar Y Maes yng Nghaernarfon dylai cerddwyr a gyrwyr fod yn ofalus.

Cafodd y ffordd ger Ysgol Syr Hugh Owen ei chau yn y dre'.

Ym Mangor cafodd y Stryd Fawr ei chau am fod llechi wedi cwympo o'r to. Digwyddodd yr un peth yn Stryd Fawr Pen-y-groes, Dyffryn Nantlle.

Roedd rhan o'r A4087, Heol Caernarfon, ym Mangor ar gau.

Ym Mallwyd roedd yr A458 wedi ei rhwystro'n rhannol - a'r A487 ym Minffordd - am fod coeden wedi cwympo.

Ym Mhantperthog roedd yr A487 wedi ei rhwystro'n rhannol oherwydd coeden ar y ffordd.

Roedd yr A487 ym Mhenrhyndeudraeth wedi ei rhwystro'n rhannol am fod adeiladau anniogel yng nghyffiniau'r Stryd Fawr.

Oherwydd coed wedi cwympo roedd yr A494 yn Nolgellau wedi ei rhwystro'n rhannol a'r A498 ym Meddgelert ar gau i'r ddau gyfeiriad.

Yn Sir Ddinbych roedd yr A525 yn rhannol ar gau rhwng goleuadau traffig Gwesty'r Goron yn Llandegla a chyffordd y B5430 ym Mwlchgwyn.

Ddim yn saff

Ym Mhowys roedd yr A40 yn rhannol ar gau ger Tregastell.

Yn ardal Aberystwyth cafodd diffoddwyr eu galw i Stad Glanyrafon am fod carafanwyr yn poeni am effaith y gwynt ar goed.

Yn Neyland a Dinbych y Pysgod yn Sir Benfro cafodd diffoddwyr eu galw am fod adeiladau ddim yn saff yn sgil gwyntoedd cryf.

Roedd y B4317 ym Mhontyberem ger Llanelli wedi ei rhwystro i'r ddau gyfeiriad am fod coeden wedi cwympo.

Dywedodd Cyngor Rhondda Taf fod llifogydd ar ffordd osgoi Aberdâr, yr A4059, am fod ffos wedi gorlifo. Roedd gweithwyr y cyngor a gweithwyr Tesco'n ceisio delio â'r broblem.

Am gyfnod doedd cerbydau uchel na beiciau modur ddim yn gallu teithio ar Bont Cleddau ac roedd yr Hen Bont Hafren ar gau.

Roedd oedi o hyd at awr ar drenau rhwng Caergybi a Chyffordd Llandudno i'r ddau gyfeiriad oherwydd gwyntoedd uchel a difrodi croesfannau yn Y Fali a Llanfair PG.

Oherwydd difrodi pont yn Llandecwyn roedd bws yn rhedeg rhwng Harlech a Phwllheli.

Yn y Cymoedd roedd y gwasanaeth trenau rhwng Pontypridd ac Aberdâr yn dod i ben yn Aberpennar.

'Parhau'n wyntog'

Dywedodd Cyflwynydd Tywydd BBC Cymru Owain Wyn Evans: "Fydd hi'n parhau'n wyntog iawn y prynhawn 'ma, yn enwedig ar dir uchel ac yn y gogledd-orllewin yn benna'.

"Ond erbyn heno mae disgwyl i'r gwyntoedd ysgafnhau rywfaint wrth i'r system o bwysedd isel ar draws gogledd Prydain symud.

"Fydd ambell gawod yn bosib heno ond yn noson sych ar y cyfan gyda rhywfaint o rew yn y de- ddwyrain.

"Felly ma disgwyl iddi fod yn fwy sefydlog 'fory gyda'r gwyntoedd yn ysgafnach o lawer.

"Ond mae rhagor o dywydd garw ar y ffordd ac mae disgwyl i hwn ein cyrraedd nos Sul, glaw trwm ar draws y rhan fwya o Gymru unwaith eto."

Gan fod y tir heb gael cyfle i sychu ar ôl y glaw cyn y Nadolig mae'r glaw ychwanegol yn debyg o fynd yn syth i nentydd ac afonydd.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod risg o ddail a gweddillion eraill yn cael eu 'sgubo i mewn i ddraeniau a'u blocio, gan achosi llifogydd ar ffyrdd.

Mwy o amser

Y cyngor i bobl sy'n teithio adre wedi'r Nadolig yw caniatáu mwy o amser i deithio gan y gallai amodau gyrru fod yn anodd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus ger afonydd a ger yr arfordir lle mae disgwyl i'r gwyntoedd achosi tonnau mawr.

Dylai pobl gadw golwg ar ragolygon tywydd ar y cyfryngau er mwyn clywed y diweddaraf am rybuddion tywydd yn eu hardaloedd nhw.

Maen nhw hefyd yn dweud na ddylai pobl gerdded neu yrru drwy ddŵr llifogydd.

Bydd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru'n monitro'r sefyllfa'n ofalus dros y dyddiau nesaf ac yn cyhoeddi rhybuddion llifogydd lle bo angen.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol