Gorchymyn adolygiad yn dilyn llifogydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Arlein tywydd

Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Alun Davies wedi gofyn i swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal adolygiad yn dilyn y stormydd.

Dywedodd ei fod eisiau iddynt edrych ar yr effaith ar amddiffynfeydd llifogydd ac ar sut cafodd cymunedau eu heffeithio.

Wrth iddo ymweld ag Aberystwyth i weld graddfa'r dinistr yno, dywedodd Mr Davies: "Mae ein hamddiffynfeydd arfordirol wedi cael eu profi'n aruthrol gan y stormydd yma ac mae'n hollbwysig i ni edrych ar sut maen nhw wedi llwyddo i sefyll fyny i bŵer y stormydd diweddar.

"Dyna pam rwyf wedi gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru i gynnal adolygiad cyflym gyda'r blaenoriaeth ar ddarganfod ac asesu unrhyw niwed gafodd ei achosi fel ein bod yn gwybod lle mae angen y gwaith atgyweirio mwyaf ac i weld pa wersi allwn ni eu dysgu er mwyn paratoi ar gyfer tywydd eithafol yn y dyfodol, yn enwedig gan fod digwyddiadau fel hyn yn debygol o ddigwydd yn fwy rheolaidd oherwydd newid hinsawdd."

Mae rhai o drigolion Aberystwyth wedi galw ar y llywodraeth i roi help ariannol i Gyngor Ceredigion er mwyn eu galluogi i dalu am atgyweirio'r difrod yno.

Bydd Alun Davies yn gwneud datganiad pellach ar y sefyllfa'n ystod yr wythnos.

'Unwaith mewn canrif'

Disgrifiad o’r llun,

Does neb yn yr ardal yn cofio storm o'r fath yn ôl Elin Jones

Roedd Aelod Cynulliad Ceredigion hefyd allan yn gweld sut olwg oedd 'na ar y prom.

Dywedodd Elin Jones: "Mae'r storm yma wedi creu argraff sylweddol iawn ar y dref ac ar y gymuned yma - does neb yn cofio'r math yma o ddifrod, pobl sydd wedi byw yma ar hyd y blynydde.

"Rydyn ni'n gweld ffotograffau o'r 1920 ar 30au lle'r oed yna stormydd tebyg wedi creu digwyddiad o'r fath a nawr rydym yn eu gweld nhw eto bron i ganrif yn ddiweddarach.

Mae hyn yn ddigwyddiad unwaith mewn canrif i ddeud y gwir ac mae'r argraff mae wedi ei adael ar y dref yma'n sylweddol iawn."

Dywedodd Ms Jones ei bod hi'n bwysig bod y gwaith atgyweirio'n dechrau'n fuan er mwyn sicrhau bod busnesau lleol ddim yn colli arian wrth i'r gwanwyn agosáu.

"Ni'n gwybod bod Cyngor Sir Ceredigion mewn cyfyngder ariannol ar hyn o bryd, fel pob awdurdod lleol, felly mae'n rhaid edrych i'r llywodraeth genedlaethol yn ogystal â'r cyngor sir i sicrhau fod yna fwy o arian yn cael ei roi at ei gilydd fel gall y gwaith yma gychwyn cyn gynted a phosib achos mae angen sicrhau'r amddiffynfa yma hyd y prom."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol