Cynghorwyr Wrecsam yn pleidleisio o blaid carchar newydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Dafydd Evans

Mae cynghorwyr wedi pleidleisio o blaid cynlluniau ar gyfer carchar newydd Wrecsam.

Bydd y carchar yn dal 2,000 o garcharorion ac yn costio £250 miliwn i'w adeiladu. Fe bleidleisiodd 14 o bobl o blaid, mi wnaeth tri ymatal ac fe bleidleisiodd un cynghorydd yn erbyn y cynllun.

Roedd y swyddogion cynllunio wedi argymell cymeradwyo'r cynllun, ond mae 'na wrthwynebiad wedi bod i'r carchar gyda rhai yn dadlau y bydd yn amharu ar yr ardal.

Poeni am yr effaith ar yr amgylchedd mae cadwraethwyr.

Ym mis Medi llynedd fe gyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn mai safle'r hen ffatri Firestone oedd eu dewis cyntaf nhw ar gyfer y carchar.

Mae llywodraeth y DU wedi dadlau y byddai'r carchar yn creu 760 o swyddi newydd ac yn cyfrannu £23 miliwn y flwyddyn at yr economi leol.

Mae manylion y cynllun yn cynnwys tri bloc fydd yn gweithredu fel lloches i'r carcharorion, i gyd yn 18m (59 troedfedd) o uchder, gyda'r adeilad cyfan yn cael ei amgylchynu gan ffens fydd 160m i ffwrdd o'r tai agosaf ym Mhentref Maelor.