Iaith: ymgyrch yn erbyn llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
Cymdeithas
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pedwar mis o weithredu uniongyrchol

Mewn cyfarfod yn Aberystwyth mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd cyfnod o bedwar mis o weithredu uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth Cymru oherwydd "diffyg arweiniad" yn ymwneud â'r iaith Gymraeg.

Fe allai hyn gynnwys torcyfraith, meddai'r mudiad.

Fe fydd yr ymgyrch yn dechrau fis nesaf a bydd rali yn Eisteddfod yr Urdd.

Mae'r mudiad iaith wedi honni nad yw'r llywodraeth wedi dangos arweiniad yn achos pump allan o chwech o ofynion polisi yr oedd wedi eu cyflwyno i'r llywodraeth chwe mis yn ôl.

Y pump yw Addysg Gymraeg i Bawb, Tegwch Ariannol i'r Gymraeg, Gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg, Safonau Iaith i Greu Hawliau Clir a'r Gymraeg yn greiddiol i Ddatblygu Cynaliadwy.

'Y cyntaf o Chwefror'

Dywedodd cadeirydd y mudiad, Robin Farrar: "Byddwn ni'n dechrau ar y cyfnod cyntaf o weithredu ar y cyntaf o Chwefror a bydd yn arwain at brotest ar faes Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai."

Yn Nhachwedd roedd y mudiad iaith wedi beirniadu ymateb y llywodraeth i'r Gynhadledd Fawr gan ei alw'n "chwerthinllyd".

Roedd y llywodraeth wedi dweud y byddai gwefan ac ap newydd yn cael eu datblygu ar gyfer ceisio hybu'r defnydd o'r Gymraeg.

Ar y pryd dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai'r llywodraeth yn mynd ati i sicrhau bod yr iaith yn cael ei hystyried ar draws portffolio pob gweinidog.

Hefyd dywedodd y byddai'n cyhoeddi canllaw pellach i gydfynd â TAN 20 a phecyn ar gyfer cyflogwyr a'u gweithwyr er mwyn gwella'r ymwybyddiaeth o'r iaith yn y gweithle.