Rhybudd am law trwm iawn i dde Cymru

  • Cyhoeddwyd
Heavy rainFfynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r glaw ddisgyn mewn cawodydd byr ond trwm iawn

Fe ddywed y rhagolygon y bydd glaw trwm a gwyntoedd yn ysgubo ar draws de a gorllewin Cymru ddydd Sul, ac mae disgwyl hyd at fodfedd o law.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law, sy'n golygu y dylai pobl baratoi am dywydd drwg iawn.

Ychwanegodd bod llifogydd yn debygol naill ai oherwydd dŵr yn cronni ar wynebau'r ffyrdd, neu drwy waethygu'r trafferthion achoswyd gan y tywydd drwg yn gynharach ym mis Ionawr.

Mae disgwyl i'r glaw ddisgyn yn y bore cyn clirio o'r gorllewin yn ystod prynhawn Sul.

Yn ôl llefarydd o adran dywydd y BBC, fe fydd y glaw yn symud yn gyflym, gan gyrraedd yn gynnar fore Sul.

"Fe fydd nifer o gawodydd trymion byr yn ystod bore Sul, ac o bosib eira ar dir uchel. Fe fydd hi'n wlyb ac yn ddiflas am gyfnod go lew," meddai.

"Yna mae disgwyl ardal o wasgedd isel gyrraedd dros yr wythnos i ddod sy'n golygu y bydd y tymheredd yn disgyn yn sylweddol."

Yn ôl arbenigwyr, yr wythnos i ddod fydd yr oeraf y gaeaf yma hyd yn hyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol