Tywydd yn achosi mwy o broblemau
- Cyhoeddwyd
Mae gwyntoedd cryf a llanw uchel wedi cyfuno unwaith eto, gan achosi llanast mewn sawl ardal yng Nghymru.
Roedd yn rhaid i 10 o bobl gael eu hachub o fys Niwgwl yn Sir Penfro wedi iddo gael ei amgylchynu gyda dŵr.
Cafodd y bws ei daro gan don anferth ac roedd rhaid i'r gwasanaethau brys gael eu galw i hebrwng y bobl i rywle diogel.
Roedd y sefyllfa'n edrych mor ansicr am gyfnod nes i hofrennydd yr Awyrlu Brenhinol gael ei galw.
Ni chafodd neb eu hanafu a doedd dim angen yr hofrennydd yn y diwedd.
Mae'r A487 yn ardal Niwgwl ar gau wrth i'r cyngor geisio cyrraedd y bws i'w symud.
Mwy o ddifrod i'r prom?
Roedd tonnau mawr yn Aberystwyth hefyd, lai na mis ers i'r prom gael ei ddifrodi mewn amgylchiadau tebyg.
Oherwydd bod pobl wedi rhoi eu hunain mewn sefyllfa beryglus wrth fynd rhy agos i'r lan ym mis Ionawr, fe roedd swyddogion yr heddlu a'r cyngor yno nos Sadwrn er mwyn sicrhau fod pawb yn ddiogel.
Mae disgwyl i staff y cyngor asesu os oes difrod newydd wedi ei achosi i'r prom ddiwrnodau'n unig wedi i'r difrod gafodd ei achosi'r tro diwethaf gael ei drwsio.
Ddydd Gwener cafodd 600 o fyfyrwyr oedd yn byw gerllaw eu symud oherwydd pryderon y gallai eu llety gael ei effeithio gan lifogydd.
Mwy o dywydd garw ar y ffordd
Mae adroddiadau fod pentref Oxwich ar Benrhyn Gwyr wedi cael ei effeithio gan lifogydd.
Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio y gallai ardaloedd arfordirol fod mewn perygl yn ystod llanw cyntaf dydd Sadwrn, ond ni ddigwyddodd hynny yn y diwedd.
Cafodd gwynt o 84 milltir yr awr ei gefnogi yn Aberdaron ym Mhen Llyn am 2pm.
Mae nifer o rybuddion llifogydd dal mewn grym, gyda'r manylion ar wefan Asiant yr Amgylchedd, dolen allanol.
Mae'r rhagolygon ar gyfer dechrau'r wythnos yn awgrymu bod mwy o wynt a glaw ar y ffordd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2014