Arolwg barn: Llawer 'ddim yn gwybod sut i wneud cwyn'
- Cyhoeddwyd
Mae manylion arolwg barn ar ran BBC Cymru yn awgrymu nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod sut i wneud cwyn os ydyn nhw'n anfodlon â gofal iechyd.
Holodd cwmni IBM 750 o bobl am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru rhwng Medi 20 a Medi 22.
Yn ôl yr arolwg, doedd 72% ddim yn gwybod sut na ble i wneud cwyn.
Doedd 44% ddim yn fodlon â sut yr oedd y byrddau iechyd yn rheoli'r gwasanaeth.
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud bod targedau trin cleifion yn cael eu hadolygu ac wedi rhybuddio bod y GIG yn wynebu "heriau" oherwydd mwy o alw am y gwasanaeth a thoriadau mewn cyllid.
72%
Yn ôl yr arolwg, tra bod 72% yn hyderus fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn cynnig safon uchel o ofal iechyd, dywedodd bron 30% nad oedden nhw'n hyderus.
Roedd 74% yn hyderus y byddai'r gofal mewn ysbyty yn dda ac amserol ond bron chwarter (24%) yn dweud nad oedden nhw'n hyderus.
Dywedodd 82% eu bod yn fodlon ar eu profiadau yn y Gwasanaeth Iechyd tra bod 15% wedi dweud eu bod yn anfodlon.
Dyma'r cwestiynau gafodd eu holi:
1. Pa mor hyderus ydych chi y bydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn darparu safon uchel o ofal iechyd?
2. Pa mor hyderus ydych os ydych chi'n mynd i ysbyty yng Nghymru y byddwch yn cael gofal da ac amserol?
3. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar eich profiadau tra'n cael triniaeth yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru?
4. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar sut mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn cael ei reoli gan y byrddau iechyd?
5. A ydych chi yn hyderus eich bod yn gwybod sut yn union a ble yn union i gwyno am y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru?
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2013
- Cyhoeddwyd30 Medi 2013
- Cyhoeddwyd23 Medi 2013
- Cyhoeddwyd6 Medi 2013
- Cyhoeddwyd9 Medi 2013