Datganoli trethi: 'Dyddiau cynnar'
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhy gynnar i ddweud os bydd Llywodraeth Cymru'n torri trethi wedi iddyn nhw gael pwerau newydd, yn ôl y gweinidog cyllid.
Roedd Jane Hutt yn siarad gyda rhaglen Sunday Politics y BBC.
Mae cynlluniau ar y gweill i drosglwyddo pwerau i Gymru, fyddai'n gweld llywodraeth Bae Caerdydd yn derbyn cyfrifoldeb am godi rhan o'i chyllideb ei hun.
Ond ni fydd Llywodraeth Cymru'n dechrau casglu trethi nes o leiaf 2018, yn ôl Ms Hutt.
Newid y system dreth
Dywedodd mai bwriad y llywodraeth yw diwygio'r system dreth stamp - treth sy'n cael ei dalu gan rai pobl wrth iddyn nhw brynu tŷ.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y byddan nhw'n defnyddio'r pwerau i gael gwared ar y dreth honno'n gyfangwbl ar gyfer pobl sy'n prynu eiddo gwerth llai na £250,000.
Does dim rhaid talu'r dreth yma ar eiddo o dan £125,000 ar hyn o bryd, ond mae pob prynwr yn gorfod talu 1% yn ychwanegol ar eiddo sydd rhwng £125,000 a £250,000 o dan y system bresennol.
Yn ôl Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, mae'r gost ychwanegol yma'n gallu bod yn rhwystr i bobl sy'n ceisio prynu eu tŷ cyntaf.
Yr hyn mae Llafur yn ystyried ei wneud yw cael gwared ar y rheolau presennol sy'n dweud fod y dreth stamp yn ddibynnol ar bris yr eiddo cyfan.
'Treth artiffisial'
Barn Ms Hutt yw bod treth stamp yn "artiffisial iawn".
Dywedodd wrth Sunday Politics: "Mae'n llawer rhy gynnar i siarad am raddfa trethi.
"Mae hyn yn ymwneud â pholisïau, ynglŷn â beth allwn ni wneud, er enghraifft cael gwared ar y strwythur amrwd iawn o fewn y dreth stamp ar hyn o bryd."
Mae'r pwerau sydd ar y ffordd i Gymru yn cael eu cynnwys o fewn y Mesur Cymru, sydd yn y cyfnod drafft ar hyn o bryd.
Yn ogystal â chaniatáu i Lywodraeth Cymru fenthyg arian a chymryd y cyfrifoldeb dros rai o drethi llai, mae'r mesur yn cynnwys darpariaeth ar gyfer datganoli treth incwm yn dilyn refferendwm.
Treth incwm yn hollti barn
Mae hyn wedi achosi dadlau mawr o fewn y blaid Geidwadol, ac fe ddaeth hyn i ben wrth i Andrew RT Davies roi'r sac i bedwar aelod o'i gabinet am beidio ei gefnogi mewn pleidlais yn y Senedd.
Mae Mr Davies eisiau gweld treth incwm yn cael ei ddatganoli heb gyfyngiadau, er mwyn ei alluogi i ymgyrchu dros dorri'r band uchaf o dreth incwm.
Ond ni fydd hyn yn bosib, gan fod San Steffan yn bwriadu rhoi cyfyngiad "cam clo" ar y pwerau fydd yn golygu na fydd posib amrywio'r band uchaf heb amrywio pob band arall hefyd o'r un faint.
Mae adroddiadau fod hyn wedi achosi anghytundeb o fewn y Blaid Lafur hefyd, gyda'r AS Owen Smith yn mynnu nad yw Llafur eisiau gweld y dreth yma'n cael ei ddatganoli o gwbl, ond Carwyn Jones yn dweud ei fod yn croesawu'r gallu i dderbyn y pŵer yn y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2014