Andrew RT Davies: 'hollt yn y blaid ers tro'

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrew RT Davies bod sael sefyllfa 'lletchwith' yn ddiweddar

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyfaddef bod hollt wedi bod yn y blaid ers tro.

Penderfynodd Andrew RT Davies ddiswyddo pedwar aelod o'i gabinet yr wythnos diwethaf am ei wrthwynebu mewn pleidlais yn y senedd.

Dywedodd wrth raglen Sunday Supplement y BBC bod arwyddion o anfodlonrwydd wedi bod yn y blaid ers dros ddwy flynedd.

Ond, mynnodd ei fod dal am arwain y blaid i mewn i etholiadau'r Cynulliad yn 2016.

'Lletchwith'

Cafodd Nick Ramsay, Antoinette Sandbach, Mohammad Asghar a Janet Finch-Saunders eu diswyddo o gabinet y Ceidwadwyr ddydd Mercher am wrthwynebu Mr Davies mewn pleidlais ar ddatganoli pwerau treth incwm.

Yn siarad ar Radio Wales, dywedodd Mr Davies bod sawl sefyllfa "lletchwith" o fewn y blaid yn ddiweddar.

"Mae hynny'n digwydd ym mhob plaid. Os ydych chi'n edrych ar arweinwyr y gwrthbleidiau dros y blynyddoedd, o David Cameron pan oedd o yn yr wrthblaid, Tony Blair pan oedd o yn yr wrthblaid, Neil Kinnock, Margaret Thatcher," meddai.

Dywedodd bod hynny'n rhan o fod yn yr wrthblaid, a'i fod yn dal wedi ymrwymo i arwain y blaid yn etholiadau 2016.

"Rydw i wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod gyda ni agenda blaengar yn mynd i mewn i 2016."

Mae Mr Davies yn feirniadol o'r model o bwerau dreth incwm sy'n cael eu cynnig i Gymru o San Steffan.

Methodd y pedwar AC a phleidleisio yn erbyn y model yn y senedd.

Mae ffynonellau o fewn y blaid wedi dweud bod "dim cefnogaeth" i benderfyniad Mr Davies i'w diswyddo mewn cyfarfod o fwrdd y Ceidwadwyr yn ddiweddar.

'Gwersi i'w dysgu'

Yn siarad ar Sunday politics, dywedodd Nick Ramsay AC bod angen dysgu gwersi o ddigwyddiadau'r wythnos.

"Dwi'n meddwl bod gwersi i'w dysgu yma," meddai.

"Roedd hi'n amlwg bod hyn am achosi problem ac i unrhyw un sy'n dweud nad oes problemau yn y grŵp Ceidwadol ar hyn o bryd, mae'n glir bod yna rai, felly dwi'n meddwl bod angen i ni ddelio hefo rhain.

"Mae posib delio hefo nhw - ond mae angen i ni dderbyn eu bod nhw yna a symud ymlaen.

"Roedd y problemau yma bob amser yn mynd i ddatblygu. Gallwch chi ddim gofyn i rywun bleidleisio yn erbyn eu hegwyddorion.

"Gallwn i ddim fod wedi pleidleisio o blaid gwelliant Plaid Cymru fyddai'n mynd yn erbyn polisi fy mhlaid."

O dan y model sy'n cael ei gynnig i lywodraeth Cymru, byddai rhaid adlewyrchu unrhyw newid i dreth incwm ar draws pob band.

Byddai hynny'n golygu na fyddai'n bosib newid y bandiau uwch neu is yn unig.