Grant o bron i £1m i Ganolfan Dylan Thomas yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe wedi derbyn £935,700 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn sicrhau ei dyfodol.
Bydd y grant yn galluogi'r ganolfan i ehangu ac arddangos eitemau sydd wedi cael eu cadw mewn archifau.
Ymhlith yr eitemau hyn mae llythyr caru gan Dylan Thomas at ei wraig, Caitlin.
Yn ychwanegol bydd casgliad o lyfrau nodiadau Thomas yn dychwelyd i Gymru ar fenthyg am y tro cyntaf ers i'r bardd eu gwerthu yn 1941 i Brifysgol Buffalo, Efrog Newydd.
Mae Hannah Ellis, wyres Thomas, wedi chwarae rhan allweddol wrth sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect.
Dywedodd: "Mae'r Ganolfan yn gartref i'r casgliad mwyaf o ddeunydd sy'n gysylltiedig â Dylan Thomas yn y byd, casgliad sy'n bwrw golwg unigryw ar fy nhad-cu.
"Rydw i am i gynulleidfaoedd ifanc a newydd allu darganfod a dysgu am gerddi fy nhad-cu, ei straeon a'i ddramâu.
"Bydd y grant hwn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn sicrhau y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn medru mwynhau'r arddangosfa."
'Creadigol'
Yn ystod 2014 bydd Canolfan Dylan Thomas yn ganolbwynt ar gyfer dathliadau canmlwyddiant y bardd, yn Abertawe a thu hwnt.
Bydd y grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn sicrhau y gall yr arddangosfa gael ei hagor ar ei newydd wedd mewn pryd i ddathlu canmlwyddiant ei ben-blwydd ym mis Hydref.
Dywedodd y Cynghorydd David Phillips, Arweinydd Cyngor Abertawe: "Mae'r arddangosfa yn 13 mlwydd oed ac yn cyfyngu ar ein gallu i fod yn greadigol â'r nifer fawr o eitemau sydd gennym yn y casgliad.
"Bydd y grant hwn yn helpu i greu lle dysgu bywiog ac adeiladu arddangosfeydd a fydd nid yn unig yn ein helpu i arddangos mwy o'n casgliad, ond hefyd yn ein galluogi i ddenu arteffactau unigryw sy'n gysylltiedig â Dylan Thomas o bob rhan o'r byd."
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC: "Mae'n bwysig iawn fod pobl ifanc yn gallu deall etifeddiaeth Dylan Thomas a chael ysbrydoliaeth gan yr hyn a wnaeth.
"Dyma ddyn ifanc o Abertawe a ddaeth yn un o feirdd mwyaf adnabyddus y byd ac mae'n bwysig fod pobl ifanc yn tynnu ysbrydoliaeth o hyn ac yn dilyn eu huchelgeisiau eu hunain."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2014