Blwyddyn arwyddocaol Dylan Thomas

  • Cyhoeddwyd
Cynhyrchiad Under Milk Wood.Ffynhonnell y llun, Catherine Ashmore
Disgrifiad o’r llun,

I ddathlu 60 mlynedd ers darllediad cyntaf Under Milk Wood, mae Clwyd Theatr Cymru yn mynd â chynhyrchiad newydd ar daith o amgylch Cymru, Lloegr ac America

Yn ogystal â dathlu canmlwyddiant genedigaeth Dylan Thomas eleni, mae hi hefyd yn 60 blynedd ers darllediad cyntaf ei ddrama, Under Milk Wood.

Cafodd y ddrama ei darlledu am y tro cyntaf ym mis Ionawr 1954, ychydig fisoedd ar ôl i'r bardd farw yn Efrog Newydd.

Ers y perfformiad hwnnw, mae'r sgript wedi cael ei addasu ar gyfer teledu, ffilm a'r llwyfan, ac mae fersiwn Gymraeg o'r ddrama, Dan y Wenallt gan T. James Jones, hefyd wedi'i ysgrifennu.

Hanes trigolion pentref Cymreig ffuglennol Llareggub sy'n cael ei hadrodd yn y cynhyrchiad, gyda rhai yn amau mai Talacharn neu Cei Newydd sydd dan sylw, gan y bu Dylan Thomas yn byw yno am gyfnod.

I nodi'r dyddiad arwyddocaol eleni, mae Clwyd Theatr Cymru wedi creu cynhyrchiad llwyfan newydd sydd ar fin mynd ar daith i theatrau yng Nghymru, Lloegr ac America.

Mae'r daith wedi dechrau yn yr Wyddgrug yn barod, ac wedi ennill clod beirniaid y papurau newydd.

Chwarae rhan y Prif Lais fel "mynd adre"

Ffynhonnell y llun, Catherine Ashmore
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor, Owen Teale, sy'n chwarae rhan y Prif Lais yn y cynhyrchiad newydd, ac fel un o Abertawe, tref genedigol Dylan Thomas, mae'n dweud bod chwarae'r rhan fel "mynd adre"

Yr actor, Owen Teale, sydd yn chwarae rhan y Prif Lais, ac sy'n teimlo'n agos at y gwaith gan ei fod wedi'i fagu ger cartref genedigol Dylan Thomas yn Abertawe.

"Gan i fi gael fy ngeni yn agos iawn, yn ardal Uplands, Abertawe, rwyf wedi fy magu gyda hwn yn rhan o fy niwylliant. Rhywbeth oedd wedi fy niffinio i a'r bobl o'n amgylch i oedd chwedl y bywyd, tebyg i seren bop, oedd gan Dylan Thomas.

"Felly i fi, mae (chwarae'r rôl) fel mynd adre, fel rhyw fath o ymgartrefi, ac rwy am ddod a hynny i'r Prif Lais," meddai.

Ffynhonnell y llun, Catherine Ashmore
Disgrifiad o’r llun,

Steven Meo, Simon Nehan, Richard Elfyn, Kai Owen, Caryl Morgan, a Sara Harris-Davies yn y cynhyrchiad diweddaraf

Mae'r cynhyrchiad wedi caniatáu'r cyfarwyddwr, Terry Hands, ail-edrych ar ddrama mae ganddo ddiddordeb mawr ynddi.

"Rydw i wastad wedi addoli hi, rydyn ni i gyd wedi syrthio mewn cariad â hi. Ond i fi, mae'n gerdd, yn farddoniaeth hynod, ond hefyd yn rhywbeth syfrdanol rwy'n ei alw yn Saesneg-Cymreig.

"Mae (Dylan) yn ysgrifennu mewn ffordd wahanol i'r Saeson, yn yr un ffordd mae James Joyce yn defnyddio Saesneg-Gwyddeleg yn Ulysees. Petai James Joyce erioed wedi dysgu Gaeleg, fydden ni ddim wedi cael Ulysees, ac yn yr un modd, petai Dylan Thomas wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg, fydden ni ddim wedi cael Under Milk Wood."

Mae Mr Hands yn dweud bod defnydd Dylan Thomas o eiriau yn unigryw.

"Mae'n athrylith, yn defnyddio iaith sydd ddim ond i'w glywed yng Nghymru. Ac rwy'n edrych ymlaen at fynd â hi o amgylch y byd."

Atgofion actores o'r cynhyrchiad cyntaf

Un sydd ag atgofion melys o'r ymateb i'r cynhyrchiad cyntaf oll o Under Milk Wood yw'r actores Gwenyth Petty.

Yn 1954, hi oedd yn chwarae rhan Lily Smalls yn y ddrama, gyda Richard Burton fel y Prif Lais.

"Roeddwn i'n gwybod ar y pryd ei bod hi'n rhywbeth arbennig, ond nid mor arbennig ag y daeth hi i fod, yn y pen draw," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Yr actores, Gwenyth Petty, o Faesteg, oedd yn chwarae rhan Lily Smalls yn y cynhyrchiad cyntaf un o 'Under Milk Wood' ym 1954, gyda Richard Burton fel y Prif Lais.

Cafodd y cynhyrchiad cyntaf ei ddarlledu yn fyw o stiwdio y BBC yn Llundain, gyda'r cynhyrchydd, Douglas Cleverdon, yn bennaf gyfrifol am y perfformiad.

"Hwnna oedd y cynhyrchiad gorau erioed (o Under Milk Wood), does dim byd wedi dod yn agos ers hynny. Roedd hi'n ffres, ond mae'n rhaid i fi ganmol y cynhyrchydd, Douglas Cleverdon, oedd yn gwybod pob gair o'r sgript.

"Ac yn wahanol i beth rwyf wedi'i ddarllen yn y wasg, fe, a fe yn unig, oedd wedi llwyddo i gael sgript orffenedig (gan Dylan Thomas). Fe oedd yn gyfrifol am gloi Dylan Thomas yn llyfrgell y Ganolfan Darlledu dros nos er mwyn iddo orffen ysgrifennu."

Cafodd Gwenyth Petty ei magu ym Maesteg yng Nghwm Llynfi, a'r blas o gymunedau fel ei bro enedigol sy'n gyfrifol am lwyddiant Under Milk Wood, yn ei barn hi.

"Gan fy mod i'n dod o bentref bach, roeddwn i'n ofnadwy o nerfus pan ofynnodd Douglas Cleverdon os fydden ni yn fodlon darllen (y rhan), gan mai ar gyfer y Third Programme oedd y cynhyrchiad.

Ffynhonnell y llun, Catherine Ashmore
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor, Ifan Huw Dafydd, sy'n chwarae rhan Captain Jac

"Ond am i mi gael fy magu mewn pentref bach, fe edrychais ar y sgript a meddyliais, 'Am bentref bach Cymreig mae hwn!'," meddai.

Wrth i'r cynhyrchiad newydd baratoi am y daith i America, mae Owen Teale yn hyderus y bydd themâu cymunedau Cymreig yn cyfieithu'n dda ar gyfer cynulleidfa Americanaidd.

"Mae hi am gymuned fach a phobl benodol, ac mae wedi'i ysgrifennu'n onest iawn. Ond gan ein bod ni i gyd yn fodau dynol, rwy'n siŵr bod hi'n bosib i hynny gael ei drosglwyddo ac i bawb deimlo'r un peth.

"Rwy'n meddwl bod y darn yn llwyddo i wneud hynny - efallai bydd rhai o'r geiriau'n ymddangos yn rhyfedd yn America, ond rwy'n meddwl y byddan nhw'n deall y stori. Mae ganddi'r cyffredinolrwydd sydd wedi llwyddo i'w gwneud hi'n glasur."