Criwiau ambiwlans yn methu targedau
- Cyhoeddwyd
Bu dirywiad sylweddol yn yr amser mae ambiwlansys yn cymryd i gyrraedd cleifion yng Nghymru, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Ym mis Chwefror, fe wnaeth criwiau ambiwlans gyrraedd 52.8% o'r galwadau mwyaf brys o fewn wyth munud.
Mae hynny'n is na'r mis blaenorol (57.6%), a hefyd i lawr o'r un cyfnod y llynedd - 60.8%.
Fe ddaw'r newyddion wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi newidiadau i'r ffordd o fesur llwyddiant adrannau brys a'r gwasanaeth ambiwlans.
Y targed sydd wedi ei osod yw 65% o ambiwlansys yn cyrraedd achosion brys o fewn wyth munud.
'Newid y targedau'
Dywedodd Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, fod y ffigyrau diweddaraf yn dangos bod y sefyllfa yn annerbyniol.
"Er gwaetha gwaith caled y staff, mae perfformiad Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gwbl annerbyniol.
"Daw'r ffigyrau ar yr un diwrnod ag y gwnaeth Carwyn Jones gyhoeddi newidiadau i'r modd y mae perfformiad y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei fesur. Fe fydd cymunedau ledled Cymru yn cwestiynu amseru'r cyhoeddiad.
"Os nad ydych yn gallu cyrraedd targedau pwysig - nid yr ateb yw newid y targedau. Yr ateb yw adnabod y problemau a gweithio'n galetach i sicrhau gwelliannau."
'Consyrn mawr'
Dywedodd Elin Jones, llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, mai rhain oedd y ffigyrau gwaethaf erioed ar gyfer targedau ymateb.
"Er gwaetha honiadau'r gweinidog fod yna sylfaen gref fyddai'n caniatáu i'r gwasanaeth gwrdd â'r galwadau dros gyfnod y gaeaf, perfformiad Chwefror oedd y gwaethaf ers Rhagfyr 2011.
"Fe ddigwyddodd y perfformiad gwael er gwaetha'r ffaith fod y gwasanaeth wedi derbyn nifer sylweddol yn llai o alwadau nag yn y misoedd blaenorol. Dylai hyn fod o gonsyrn mawr i Lywodraeth Cymru.
"Fe ddylai Llywodraeth Cymru geisio mynd i'r afael â phroblemau'r Gwasanaeth Ambiwlans yn hytrach na cheisio newid targedau."
'Bywydau mewn perygl'
Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mai'r ffigyrau oedd y rhai gwaethaf ers cyflwyno'r targedau yn 2011.
"Mae'n bryder mawr mai dim ond hanner y galwadau lle mae bywyd mewn peryg sy'n cael eu hateb o fewn y targed o wyth munud.
"Mae bywydau mewn peryg oherwydd yr oedi.
"Daw'r ffigyrau brawychus ar yr un diwrnod ag y cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ei fod yn bwriadu newid y ffordd mae'r gwasanaeth ambiwlans yn cael ei fonitro."
'Peidio atal targedau'
Wrth ateb cwestiwn brys yn y Senedd brynhawn Mercher, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, fod yr heddlu wedi rhoi cyngor i atal pob targed ar gyfer amseroedd ymateb ambiwlans i achosion brys dros benwythnos y 13eg o Chwefror oherwydd "y tywydd eithafol".
Yn ystod y sesiwn, dywedodd Darren Millar, o'r Ceidwadwyr Cymreig, bod y ffigyrau yn "ganlyniad uniongyrchol" i doriadau yn y GIG a dywedodd ei bod hi'n "ofnadwy" nad yw'r gweinidog wedi dod i delerau â chyflwr y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru.
Atebodd y gweinidog ei fod, dros benwythnos Chwefror 13, wedi cael trafodaeth gyda'r heddlu a wnaeth ei gynghori bod "yr amodau yr oedd gwasanaethau ambiwlans yn eu hwynebu i gyrraedd galwadau o fewn 8 munud mewn rhannau o Gymru" yn anodd iawn, ond ei fod wedi "dewis peidio â rhoi'r gorau i'r targedau."
Cytunodd Mr Drakeford fod y ffigyrau yn siomedig ond rhoddodd y bai ar "y tywydd eithafol yn ystod y misoedd diwethaf" a'i fod wedi rhoi cyngor i'r gwasanaeth ambiwlans i "weithredu'n ddiogel".
Ychwanegodd y gweinidog fod y ffigyrau dros fisoedd y gaeaf yn well na'r misoedd cyfatebol y llynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2013