Cyfieithu Dylan Thomas i Tsieinëeg am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro Wu Fu-ShengFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mi aeth yr Athro Wu Fu-Sheng i ymweld â'r tŷ lle cafodd Dylan Thomas ei eni

Mae bardd ac arbenigwr cyfieithu o Tsieina wedi cyfieithu rhai o gerddi mwyaf adnabyddus Dylan Thomas i Tsieinëeg Mandarin am y tro cyntaf.

Bu'r Athro Wu Fu-Sheng, sydd ar hyn o bryd yn dysgu ym Mhrifysgol Utah yn Salt Lake City yn yr Unol Daleithiau, yn ymweld â'r tŷ lle ganed Dylan Thomas yn Abertawe.

Yno bu'n darllen o'u gyfieithiadau i Mandarin, iaith sydd yn cael ei siarad gan tua biliwn o bobl.

Dywedodd ei fod wedi darllen barddoniaeth Dylan Thomas am y tro cyntaf yn 1985 pan ddaeth ffrind iddo i Tsieina o Gymru.

"Fe wnaeth harddwch cerddi megis 'Fern Hill' a 'Do not go gentle into that dark night' argraff," meddai.

"Nid oes llawer o ymwybyddiaeth o farddoniaeth Thomas yn Tsieina ond mae pobl yn ei adnabod fel eicon diwylliannol."

Mae'r Athro Wu Fu-Sheng yn arbenigwr mewn barddoniaeth Tsieinëeg a Saesneg ac yn cyfieithu gwaith yn y ddwy iaith.

"Mae gwaith Dylan Thomas yn anodd hyd yn oed i bobl sy'n siarad Saesneg felly mae ei gyfieithu i Tsieinëeg yn her ..."

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o ddigwyddiadau yn dathlu canmlwyddiant Dylan Thomas eleni

Dywedodd bod rhai o'r themâu ym marddoniaeth Dylan Thomas, fel yr agwedd tuag at natur, yn rhai sydd yn gyfarwydd i ddarllenwyr yn Tsieina tra bod cyfeiriadau tuag at ddiwylliant crefyddol yn ei gerddi yn wahanol iawn i'r profiad yng nghymdeithas Tsieiniaidd.

Roedd ymweld â'r tŷ lle ganed Dylan Thomas wedi bod yn brofiad "ysbrydoledig a gwefreiddiol" meddai.

"Dwi'n meddwl y bydd ymweld â'r lle yma yn fy helpu i gyfieithu ei waith yn well ac yn fy helpu i ddeall y dyn yn well."

Mae ymweliad yr Athro â Chymru yn cael ei ariannu gan Goleg Celfyddydau a Dyniaethau Prifysgol Abertawe a Dinas a Sir Abertawe.

Y bwriad yw rhoi cyfle iddo wneud rhywfaint o gyfieithu a hefyd hyrwyddo gwaith Dylan Thomas yn Tsieina a chryfhau'r cysylltiadau rhwng Abertawe a Tsieina.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol