Ailagor ystafell wely Dylan Thomas

  • Cyhoeddwyd
Hannah Ellis yn ystafell wely Dylan
Disgrifiad o’r llun,

Wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis, agorodd ei hen ystafell wely i'r cyhoedd

Mae'r ystafell wely fach lle yr ysgrifennodd Dylan Thomas dros ddwy ran o dair o'r holl waith a gyhoeddwyd ganddo wedi cael ei hailagor gan ei wyres Hannah Ellis.

Cafodd y llofft yn 5 Cwmdonkin Drive yn Abertawe ei adnewyddu i ail greu'r ystafell fel ag yr oedd pan oedd y bardd yn 20 oed ychydig wedi i'w gyfrol gyntaf o farddoniaeth gael ei chyhoeddi yn 1934.

Matthew Hughes fu'n goruchwylio'r prosiect yn dilyn gwaith ymchwil manwl o lythyrau Dylan Thomas a ffynonellau eraill, a dywedodd Mr Hughes:

"Mae'r holl bapurau, llyfrau a henebion eraill yn rhai sydd wedi eu crybwyll, neu'n debyg i'r rhai y byddai gan Dylan yn yr ystafell wely fach, gan gynnwys copi o'r hoff lyfr fel plentyn, Struwwelpeter a phapur y Boy's Own.

"Yn Nadolig 1933 fe gafodd gopi o'r Koran gan ei gyfaill mawr Daniel Jones, ac yn yr un flwyddyn fe gafodd focs o 50 o sigarets Players gan ei gariad ar y pryd, Pamela Hansford Johnson."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ystafell yn hen gartref Dylan Thomas yn 5 Cwmdonkin Drive, Abertawe

Apêl

Mae Geoff Haden o 5 Cwmdonkin Drive wedi lansio apêl am wybodaeth i'w galluogi i gwblhau'r ail-gread o'r ystafell, a dywedodd:

"Drwy ddefnyddio atgofion pobl am y tŷ ynghyd â gwaith Dylan ei hun rydym wedi sicrhau bod ei ystafell ysgrifennu gyntaf yn fwy dilys nag unrhyw le arall sy'n ymwneud ag e.

"Ond rydym yn dal i chwilio am eitemau neu hanesion o'r cyfnod fydd yn cynorthwyo i ddweud y stori'n gyflawn.

"Fe fyddwn ni wrth ein bodd i gael, er enghraifft, cap a siaced Ysgol Ramadeg Abertawe, lluniau neu gofnodion ysgol fydd yn ychwanegu at awyrgylch yr ystafell."

Wrth ailagor yr ystafell i'r cyhoedd dywedodd wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis:

"Mae'n bosib gweld trwy gydol ei fywyd bod fy nhaid ar ei fwyaf cynhyrchiol pan oedd ganddo'i le bach ei hun, a dyma oedd y cyntaf ohonyn nhw i gyd felly rwy'n siŵr y bydd yn gyrchfan bwysig yn ystod canmlwyddiant ei eni.

"Mae'n wych y bydd pobl yn cael y cyfle i weld, cyffwrdd ac arogli'r ystafell sy'n rhoi argraff mor dda o sut beth oedd hi'r adeg honno."