Andrew RT Davies yn "gwastraffu amser"

  • Cyhoeddwyd
Nick Ramsay AC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nick Ramsay yn dweud y byddai newid enw'r Cynulliad yn "gostus" a "di angen"

Mae AC Ceidwadol gafodd y sac o'r fainc flaen eleni wedi beirniadu arweinydd ei blaid yn y Cynulliad am awgrymu y dylid ail enwi'r sefydliad yn "senedd."

Mi ddefnyddio Nick Ramsay golofn mewn papur newydd i awgrymu bod Andrew RT Davies yn "gwastraffu amser" trwy alw am newid enw'r lle.

Mae Mr Davies wedi dadlau y byddai newid yr enw yn dangos beth yw rôl y Cynulliad mewn ffordd fwy clir ar gyfer y cyhoedd.

Ond mae Mr Ramsay, AC ar gyfer Mynwy wedi ysgrifennu ym mhapur newydd y South Wales Argus:

"Mi fydden i'n hoffi pe byddai gwleidyddion yn bwrw ymlaen gyda'r gwaith o daclo problemau bob dydd sydd yn wynebu'r wlad, yn hytrach na gwastraffu amser ar faterion sydd o ddiddordeb i'r 'swigen' wleidyddol yn bennaf.

"Fyddai i yn bendant ddim yn cefnogi unrhyw newidiadau costus a di angen i ail enwi'r Cynulliad na unrhyw gamau tuag at bwerau treth incwm anghyfyngedig."

Barn bersonol

Ym mis Chwefror roedd Mr Ramsay yn un o bedwar AC gafodd eu diswyddo o feinciau blaen y Ceidwadwyr am wrthryfela yn erbyn Mr Davies mewn pleidlais ynglŷn â datganoli treth incwm.

Yng nghynhadledd y blaid yn Llangollen penwythnos diwethaf mi oedd hi'n ymddangos bod Mr Davies yn gwneud cynnig i'r pedwar gan alw am "glymblaid o syniadau" er mwyn curo Llafur.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae safbwynt Andrew RT Davies ynglŷn ag ail enwi'r Cynulliad yn un y mae pobl yn gwybod amdano. Barn bersonol Andrew R T Davies yw hyn."