Darganfod fideo cyntaf o Dylan Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae'r lluniau fideo cyntaf o'r bardd Dylan Thomas wedi eu darganfod, gan ddod a blynyddoedd o chwilio i ben.
Mae'r arbenigwr ar Thomas, Jeff Towns, wedi cadarnhau mai'r bardd sydd yng nghefndir y ffilm gafodd ei recordio ar draeth yng ngorllewin Cymru.
Daw'r darganfyddiad wrth ddathlu canmlwyddiant geni'r bardd, a dywedodd Mr Towns: "Gall o ddim wedi bod yn well. Gallwch chi ddim ei sgriptio."
Bydd stori'r darganfyddiad yn cael ei gyflwyno gan Cerys Matthews ar raglen The One Show nos Fawrth.
Mae'r chwilio am luniau fideo o Dylan Thomas wedi bod yn uchelgais i rheiny a diddordeb ym mywyd y bardd ers rhai blynyddoedd.
Er i'r bardd wneud dwy ffilm i'r BBC a nifer o ymddangosiadau cyhoeddus ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau, dyma'r tro cyntaf i luniau fideo gael eu darganfod.
Llwyddodd Mr Towns i adnabod y bardd yng nghefndir ffilm Ava Gardner o 1951, Pandora and the Flying Dutchman.
Daeth o hyd iddo gyda chymorth gan ewythr Cerys Matthews, Colin Edwards.
Cafodd rhan fwyaf o'r ffilm ei chreu yn Sbaen, ond cafodd rhai o'r golygfeydd olaf eu recordio ar Draeth Pentywyn yn Sir Gar.
Bu farw Dylan Thomas yn 1953.
Bydd stori'r ffilm yn cael ei ddangos ar The One Show ar BBC1, ddydd Mawrth am 19:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2014
- Cyhoeddwyd1 Mai 2014
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2014