M4: her gyfreithiol

  • Cyhoeddwyd
Ffordd

Mae BBC Cymru yn deall y bydd Cyfeillion y Ddaear heddiw yn cyflwyno her gyfreithiol yn erbyn cynllun Llywodraeth Cymru i adeiladu ffordd osgoi'r M4 o gwmpas Casnewydd.

Mi ddywedodd y mudiad amgylcheddol pan y cafodd y cyhoeddiad ei wneud bod gyda nhw sail i wneud hynny gan ddweud nad oedd y llywodraeth wedi rhoi ystyriaeth lawn i'r opsiynau eraill.

Pan ofynnwyd i Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth am y posibilrwydd o her gyfreithiol yn dilyn ei phenderfyniad dywedodd ei bod hi'n disgwyl un.

Ar gost o £1 biliwn hwn yw'r prosiect drytaf ers i'r Cynulliad Cenedlaethol ddod i fodolaeth.

Y bwriad yw i'r ffordd fynd rhwng cyffordd 23 a 29 gan leihau tagfeydd a rhoi hwb i'r economi.

Pedwerydd opsiwn

Mi oedd y ffordd yn un o dri llwybr posib gafodd eu cynnig gan y llywodraeth ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus mis Medi'r llynedd.

Ym mis Rhagfyr fe wnaeth arbenigwr ar drafnidiaeth, Stuart Cole gynnig pedwerydd opsiwn- opsiwn sy'n cael ei adnabod fel y llwybr glas - fyddai'n golygu gwella ffyrdd presennol yr ardal.

Ond mae Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear yn cwestiynu os oedd y ffordd honno wedi ei thrafod yn llawn.

Mae Edwina Hart wedi amddiffyn ei phenderfyniad i fwrw ymlaen efo'r ffordd osgoi.

Dywedodd wrth BBC Cymru bod prosiectau mawr o'r fath yn aml yn cael eu herio yn y llysoedd, ac felly ei bod hi ddim yn synnu i glywed fod sôn am hyn nawr.