Lleoliadau ciniawau uwchgynhadledd NATO

  • Cyhoeddwyd
CameronFfynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Cameron wedi dweud bod angen i NATO edrych eto ar ei pherthynas â Rwsia

Castell Caerdydd, Tŷ Tredegar, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a bae'r brifddinas yw rhai o'r lleoliadau sydd wedi eu dewis ar gyfer uwchgynhadledd NATO mis nesaf.

Bydd ciniawau gwaith yn cael eu cynnal yn yr adeiladau sydd wedi eu dewis, ac yn Nhŷ Tredegar yng Nghasnewydd bydd derbyniad ar gyfer pobl sy'n gweithio i'r cyfryngau rhyngwladol.

Mae disgwyl y bydd dros 60 o westeion yn cyrraedd Cymru gan gynnwys gweinidogion tramor ac amddiffyn a phenaethiaid llywodraethau. Yn eu plith mae'r Arlywydd Obama a'r Canghellor Merkel.

Dyw'r uwchgynhadledd ddim wedi ei chynnal ym Mhrydain ers 1990. Nod NATO ydy bod y 28 o wledydd sy'n rhan ohono yn cydweithredu ar faterion amddiffyn a diogelwch i drio osgoi rhyfeloedd.

Yn ystod yr uwchgynhadledd rhwng 4-5 Medi mae disgwyl i arweinwyr drafod materion megis eu perthynas â Rwsia a rhyfel Afghanistan a sut i gefnogi llywodraeth y wlad wrth i'r lluoedd ddod adref.

Arddangos "ar lwyfan byd-eang"

Mae Prif Weinidog y DU, David Cameron, wedi ysgrifennu llythyr at yr arweinwyr yn amlinellu'r materion y mae'n awyddus i drafod.

Bydd llong ddistryw wedi'i hangori ym mae Caerdydd ar gyfer yr uwchgynhadledd a bwyd a diod o Gymru yn cael eu gweini.

Mae gwleidyddion yng Nghymru yn dweud bod y ddau ddiwrnod yn gyfle i ddangos yr hyn sydd gan y wlad i gynnig i'r byd.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb:

"Nid yn unig bydd uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd yn gynulliad o'r nifer fwyaf erioed o arweinwyr rhyngwladol ym Mhrydain, ond mae hefyd yn gyfle heb ei ail i arddangos Cymru ar lwyfan byd-eang.

"Mae gan Gymru leoliadau sy'n wirioneddol odidog.

Cydweithio

"Rwyf wrth fy modd y bydd cynrychiolwyr o bob rhan o'r byd yn cael y cyfle i brofi drostynt eu hunain hanes cyfoethog a threftadaeth ddiwylliannol Cymru yn ogystal â'n lletygarwch a'n croeso cynnes traddodiadol."

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones hefyd yn falch gyda'r lleoliadau sydd wedi eu dewis gan ddweud eu bod yn rhai o "adeiladu mwyaf trawiadol Casnewydd a Chaerdydd".

"Mae'r cyhoeddiad hwn yn ychwanegu at y cyffro ynghylch y digwyddiad.

"Bydd llygaid y byd ar Gymru ac mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo i sicrhau bod yr uwch-gynhadledd yn hwylus a llwyddiannus, gyda chydweithrediad agos rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU i wneud y gorau o'r cyfle unigryw hwn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol