Dydd darlledu Radio Beca

  • Cyhoeddwyd
Radio BecaFfynhonnell y llun, Radio Beca

Mae menter gymunedol Radio Beca yn cynnal dydd o ddarlledu ar ddydd Sadwrn 28 Mawrth.

O 9:00 bydd yr orsaf gymunedol yn darlledu cyfres o raglenni radio Cymraeg, fydd ar gael i'w clywed arlein.

Cafodd Radio Beca drwydded gan Ofcom yn Ebrill 2012 i ddarlledu yn siroedd Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion.

Bwriad yr orsaf yw darlledu yn Gymraeg yn yr oriau brig, gyda rhaglenni Saesneg yn cael eu darlledu gyda'r nos.

Marc cwestiwn?

Ym mis Ionawr daeth i'r amlwg bod marc cwestiwn ynglŷn â gobeithion trefnwyr Radio Beca i sefydlu'r orsaf radio cymunedol, a dechrau darlledu fis Medi.

Roedd Cymru Fyw ar ddeall nad oedd Radio Beca wedi llwyddo i gydfynd â thri maen prawf gafodd eu gosod gan Ofcom er mwyn sicrhau estyniad pellach i'w trwydded ddarlledu o fis Chwefror eleni.

Ond yn ôl Radio Beca, maen nhw'n ffyddiog y bydd Ofcom, y corff sy'n rheoleiddio darlledu, yn caniatau iddyn nhw barhau â'u cynlluniau.

Fe wnaeth y grŵp sicrhau trwydded ddarlledu yn 2012, ac roedd disgwyl iddyn nhw ddechrau darlledu yn Ebrill 2014.

Yna fe roddodd Ofcom estyniad tan Medi 2014, ac yna estyniad pellach tan Chwefror eleni.