Wythnos i fynd tan Uwchgynhadledd Nato
- Cyhoeddwyd
Mewn saith niwrnod bydd arweinwyr y byd yn cyrraedd Cymru ar gyfer cynhadledd Nato.
Mae'r gynhadledd yn cael ei chynnal yn Celtic Manor yng Nghasnewydd lle bydd 150 o bwysigion, gan gynnwys Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama, yn trafod dros gyfnod o ddau ddiwrnod.
Eisoes mae mesurau diogelwch mewn grym yn y ddinas honno a Chaerdydd, lle bydd cyfres o "giniawau gwaith" yn digwydd.
Mae rhai grwpiau sy'n gwrthwynebu Nato, gan ddadlau ei fod yn sefydliad treisgar sy'n creu niwed drwy ymyrryd mewn gwrthdaro o amgylch y byd, yn bwriadu datgan eu hanfodlonrwydd drwy gyfres o brotestiadau.
Paratoadau
Mae disgwyl i dros 12,000 o bobl ymweld â Chymru ar y 4ydd a'r 5ed o Fedi, gan gynnwys 10,000 o staff cefnogol a 2,000 o newyddiadurwyr.
Yn ogystal bydd heddlu arbenigol y Weinyddiaeth Amddiffyn yn bresennol a bydd saith o longau rhyfel Nato'n cael eu hangori o amgylch y brifddinas.
Mi fydd y gwaith diogelwch go iawn yn dechrau ar y dydd Iau gyda 9,500 o swyddogion heddlu o 43 o luoedd gwahanol yn ceisio sicrhau nad oes neb yn llwyddo i amharu ar y digwyddiadau.
Mae disgwyl i'r holl fenter diogelwch gostio dros £50 miliwn.
Cafodd ffens fetal ei chodi yng Nghaerdydd dros bythefnos cyn fod yr arweinwyr yn cyrraedd, gan arwain at gwynion gan bobl oedd yn ddig am yr effaith ar eu siwrneion neu ei busnesau.
Yn ogystal mi fydd nifer o ysgolion yn cau yn ystod y ddau ddiwrnod pan fydd yr arweinwyr yn y wlad.
Beth yw Nato?
Cynghrair filwrol yw Nato sy'n cynnwys 28 o aelodau sydd wedi tyngu i amddiffyn y gweddill os yw un ohonynt yn dioddef ymosodiad.
Cafodd ei sefydlu yn 1949 gydag 12 aelod er mwyn ceisio cydbwyso pŵer yr Undeb Sofietaidd ac mae wedi tyfu ers hynny i fod y grym milwrol mwyaf pwerus yn y byd.
Mae wedi ymyrryd mewn sawl anghydfod dros y blynyddoedd gan gynnwys yn Bosnia, Kosovo ac Afghanistan, ac yn fwy diweddar yn Libya.
Anders Fogh Rasmussen o Denmarc yw'r Ysgrifennydd Cyffredinol presennol a chafodd ei dymor ei ymestyn er mwyn iddo gynnwys y gynhadledd yng Nghymru.
Gwrthwynebu
Mae dau sefydliad penodol wedi cael eu creu er mwyn protestio'n erbyn y gynhadledd - Stop Nato Cymru a No NATO Newport.
Maen nhw wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau er mwyn mynegi eu hanfodlonrwydd â phresenoldeb Nato yng Nghymru.
Mi fydd un orymdaith yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn, ac un arall yng Nghaerdydd ddydd Sul, fydd yn digwydd ger Neuadd y Sir.
Mae'r heddlu wedi rhybuddio y bydd unrhyw un sy'n ceisio cael mynediad i Celtin Manor ei hun yn cael ei arestio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2014
- Cyhoeddwyd19 Awst 2014
- Cyhoeddwyd5 Awst 2014
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2014