Cyhoeddi ymchwiliad M4 a chynlluniau trafnidiaeth newydd
- Cyhoeddwyd
Bydd ymchwiliad cyhoeddus i gynllun i adeiladu ffordd osgoi'r M4 o amgylch Casnewydd yn dechrau ddiwedd mis Chwefror.
Mae disgwyl i Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, gyhoeddi achos newydd dros adeiladu'r ffordd yn ddiweddarach, yn dilyn amcangyfrifon newydd ar ddefnydd posib o'r ffordd.
Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi cyflwyno fformiwla newydd i geisio rhagweld lefelau traffig dros y DU.
Bydd Mr Skates yn amlinellu buddsoddiad mewn cynlluniau trafnidiaeth dros Gymru ddydd Mercher, sy'n cynnwys yr A55, yr A40 a systemau metro y de a'r gogledd.
'Heriau a chyfleoedd'
Ym mis Hydref, fe wnaeth Mr Skates ddweud bod y fformiwla newydd yn tanseilio'r angen am ffordd newydd, ond mae'n dweud bod y data yn anghywir ar y pryd.
Roedd disgwyl i'r ymchwiliad ddechrau ar 1 Tachwedd, ond roedd oedi wrth i Lywodraeth Cymru ail-ystyried tystiolaeth.
Bellach, bydd yn dechrau ar 28 Chwefror.
Mewn araith ym Maes Awyr Caerdydd fore Mercher, bydd Mr Skates yn amlinellu ei gynlluniau ar gyfer buddsoddiad mewn gwasanaethau trafnidiaeth dros y pum mlynedd nesaf.
Mae cynlluniau yn cynnwys gwella ffyrdd yr M4, A55, A40 a'r A494, cynlluniau metro de a gogledd Cymru, masnachfraint rheilffordd newydd, cronfa datblygu porthladdoedd, datblygu trydedd pont dros y Fenai a gwasanaethau bws gwell.
Dywedodd Mr Skates: "Mae'r holl agenda yn dod â heriau ond mae hefyd yn cynnig cyfleoedd ffantastig am rwydwaith fwy, gwell ac integredig sy'n cyrraedd anghenion pobl dros Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2016