Ymchwiliad i gynllun lliniaru'r M4 ym mis Tachwedd

  • Cyhoeddwyd
M4 traffic
Disgrifiad o’r llun,

Y nod yw adeiladu ffordd newydd er mwyn lliniaru traffig yn ardal twnelau Bryngals

Fe fydd ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i fwriad Llywodraeth Cymru i godi ffordd osgoi'r M4 yn ardal Casnewydd yn dechrau ar 1 Tachwedd.

Credir y bydd y ffordd lliniaru newydd - y llwybr du - yn costio tua £1 biliwn.

Mae'r rhai sy'n gwrthwynebu'r llwybr du yn cynnwys grwpiau amgylcheddol, y gwrthbleidiau a dau gyn weinidog Llafur.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi ac Isadeiledd fod arolygydd annibynnol eisoes wedi ei benodi ar gyfer ymchwiliad rhag-gyfarfod fydd yn dechrau ddydd Llun yma.

"Mae angen adolygiad annibynnol er mwyn gweld a yw'r cynigion yn rhoi ateb hir dymor a chynaliadwy i broblem traffig i'r ffordd bwysig yma," meddai Mr Skates.

"Mae wedi bod yn glir fod busnesau, teithwyr ac ymwelwyr yn credu nad yw'r ffordd yr M4 yn ardal Casnewydd yn gallu ymdodi ac anghenion y Gymru fodern.

"Bydd yr ymchwiliad yn bwrw golwg agored a thryloyw ar y prif gynnig, a'r cynigion eraill, cyn rhoi adborth fydd yn ein helpu i benderfynu p'un ai i fwrw ymlaen â'i adeiladu neu beidio."

Gwrthwynebwyr

Fe fydd rhag-gyfarfod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yn Sefydliad Lysaght, Casnewydd am 13:00.

Mae gwahoddiad i gefnogwyr a gwrthwynebwyr y cynllun fynychu "er mwyn deall yn well sut y bydd y broses ymchwilio yn ystyried yr holl ffactorau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n berthnasol," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Y llwybr du sy'n cael ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru ond mae Plaid Cymru a gwleidyddion eraill yn gwrthwynebu.

Fe fydd y llwybr du yn croesi pum safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ar lefelau Gwent.

Fe wnaeth y llywodraeth ystyried tri opsiwn, ond roedd rhai yn mynnu y dylid fod wedi ystyried pedwerydd opsiwn, sef y llwybr glas.

Byddai'r cynllun yma yn gweld gwelliannau yn cael eu gwneud i ffyrdd presennol yn ardal Casnewydd, gan ddweud fod hwn yn opsiwn rhatach ac yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd.