Geraint Lovgreen yn gwrthod talu ffi'r drwydded
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y canwr a'r bardd Geraint Lovgreen yn gwrthod talu am drwydded teledu fel rhan o ymgyrch dros ddatganoli darlledu.
Ar hyn o bryd, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y cyfryngau yng Nghymru.
Ond yn ôl Mr Lovgreen, "mae'r Gymraeg a democratiaeth Cymru yn dioddef yn ddifrifol" gan mai yn San Steffan mae'r grym.
Dywedodd yr adran sy'n gyfrifol am ddarlledu bod pob un o genhedloedd y DU yn "elwa" o'r drefn bresennol.
Mae peidio talu'r drwydded yn gallu arwain at erlyniad a dirwy "o hyd at £1,000".
'Ymosodiadau ar y Gymraeg'
Cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym mis Mai y byddai'r cadeirydd, Heledd Gwyndaf, a 50 o ymgyrchwyr eraill yn gwrthod talu am drwydded.
Mae'r mudiad hefyd yn poeni am ddylanwad y BBC dros S4C, gan ddweud bod cytundeb diweddar rhwng y ddau sefydliad yn dangos bod y BBC yn "ceisio traflyncu S4C".
Wrth gyhoeddi ei fwriad i ymuno yn yr ymgyrch a pheidio talu am drwydded, cyfeiriodd Mr Lovgreen at "ymosodiadau ar y Gymraeg" ar y BBC.
Fe gafodd rhaglen Newsnight ei beirniadu'n hallt dros yr haf am eitem oedd yn cwestiynu a ydy'r iaith yn "help neu'n rhwystr" i Gymru.
"Mae'r Gymraeg a democratiaeth Cymru yn dioddef yn ddifrifol o ganlyniad i gyfundrefn ddarlledu sy'n cael ei rheoli o San Steffan ar hyn o bryd," meddai Mr Lovgreen.
"Mae'r ymosodiadau ar y Gymraeg a welwyd yn ddiweddar gan raglenni'r BBC, a'r sylw unllygeidiog Llundeinig a roddwyd i faterion fel ymgyrchoedd annibyniaeth Yr Alban a Chatalwnia yn dangos mai propaganda Prydeinig yw'r hyn sy'n cael ei ddarlledu i ni yng Nghymru o ddydd i ddydd.
"Byddai rheoli ein cyfryngau ein hunain yng Nghymru yn rhoi cyfle i ni weld ein hunain a'r byd drwy lygaid Cymreig."
'Dirwy hyd at £1,000'
Dywedodd Richard Chapman o Drwyddedu Teledu Cymru, y corff sy'n gofalu am ffi'r drwydded: "Beth bynnag yw barn bersonol rhywun, mae'n rhaid cael trwydded deledu i wylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddynt gael eu darlledu, neu i wylio rhaglenni'r BBC ar yr iPlayer.
"Mae unrhyw un sy'n gwylio rhaglenni heb drwydded yn peryglu erlyniad a dirwy o hyd at £1,000."
O'r pleidiau gwleidyddol, mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi datganoli darlledu, ond dydy Llafur, y Ceidwadwyr nag UKIP ddim.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Llywodraeth y DU: "Wrth i'n holl genhedloedd a rhanbarthau elwa o gasglu ffi'r drwydded yn ganolog, mae'n iawn fod darlledu'n dal i gael ei reoleiddio gan y llywodraeth [yn San Steffan].
"Rydym wedi comisiynu adolygiad annibynnol i S4C ac yn ymrwymo i sicrhau bod dyfodol llewyrchus i ddarlledu yn y Gymraeg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2017