Y bleidlais am Wobr Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru wedi cau

  • Cyhoeddwyd
Rhestr fer

Mae'r bleidlais ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru bellach wedi cau.

Y pêl-droediwr Gareth Bale, y seiclwr Elinor Barker, y para-athletwr Aled Siôn Davies, y chwaraewr rygbi Jonathan Davies, yr ymladdwr Judo Natalie Powell a'r seiclwr Geraint Thomas sydd ar y rhestr fer.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yng Ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd ddydd Llun, 4 Rhagfyr, yn dilyn y bleidlais gyhoeddus.

Fe wnaeth y bleidlais agor am 08:00 ddydd Llun, 27 Tachwedd a chau am 18:00 ddydd Sadwrn, 2 Rhagfyr.

Y cyn-athletwr ac asgellwr rygbi Cymru, Nigel Walker yw cadeirydd y panel o feirniaid.

Mae pum aelod ar y panel eleni, gyda Brian Davies, Sarah Thomas, Steve James a Nathan Blake yn ymuno â Walker.

Y rhestr fer (cliciwch am eu proffil llawn):

  • Roedd chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymru Gareth Bale yn rhan o dîm Real Madrid wnaeth ennill Cynghrair y Pencampwyr a La Liga;

  • Mae'r seiclwr Elinor Barker wedi ennill medalau ym Mhencampwriaethau'r Byd ac Ewrop ar y trac;

  • Fe wnaeth Aled Siôn Davies ennill dwy fedal aur a gosod record byd ym Mhencampwriaethau Para-Athletau'r Byd;

  • Jonathan Davies oedd Chwaraewr y Gyfres Y Llewod yn Seland Newydd, ac fe enillodd y Pro12 hefyd gyda'r Scarlets;

  • Natalie Powell yw'r ddynes gyntaf o Brydain i gyrraedd rhif un yn netholion Judo'r byd;

  • Llwyddodd Geraint Thomas i fod y seiclwr cyntaf o Gymru i wisgo'r crys melyn yn y Tour de France.