Gwobr Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru: Elinor Barker

  • Cyhoeddwyd
Elinor BarkerFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae chwe enw ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.

Y pêl-droediwr Gareth Bale, y seiclwr Elinor Barker, y para-athletwr Aled Siôn Davies, y chwaraewr rygbi Jonathan Davies, yr ymladdwr Judo Natalie Powell a'r seiclwr Geraint Thomas sydd ar y rhestr fer.

Daeth Elinor Barker yn bencampwr Byd ac Ewrop am y trydydd tro yn 2017 wrth i'r seiclwr 23 oed barhau â'i gorchestion o gasglu medalau.

Ym Mhencampwriaethau Trac y Byd yn Hong Kong ym mis Ebrill, enillodd Barker y fedal aur yn y ras bwyntiau a dwy fedal arian yn y madison - gan reidio ag Emily Nelson - a'r ras safonol.

Ym Mhencampwriaethau Trac Ewrop ym mis Hydref, enillodd Barker a Dellie Dickinson deitl y madison ac enillodd Barker fedal arian hefyd gyda phedwarawd ymlid tîm Prydain, oedd yn cynnwys ei chyd-Gymraes Manon Lloyd.

Bu i hyblygrwydd Barker yn y cystadlaethau trac olygu iddi allu ennill yr omniwm hefyd yn rownd derfynol y Gyfres Chwe Diwrnod ym Majorca ac enillodd fedal arian yn yr omniwm a'r efydd yn y ras safonol yn y Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol.

Yn rownd agoriadol Cwpan Seiclo'r Byd yng Ngwlad Pwyl ym mis Tachwedd, gyda Nelson yn bartner unwaith eto, enillodd Barker y fedal arian yn y madison.

Wythnos yn ddiweddarach yn y rownd nesaf ym Manceinion, enillodd Barker a Katie Archibald y fedal aur, ac roedd y ddwy hefyd yn aelodau o garfan ymlid tîm y merched.

Yn wahanol i'r llwyddiant ar y trac, mae rasio ffordd wedi bod yn rhwystredig i Barker, ac fe orffennodd yn nawfed yn y ras yn erbyn y cloc yn y Pencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol.

Bu'n rhaid iddi fodloni ar 19eg yn y ras yn erbyn y cloc ym Mhencampwriaethau Ffordd y Byd ym mis Medi ar ôl iddi gael problem fecanyddol wrth ddringo yn ystod y ras yn Bergen, Norwy.

Ond er gwaetha'r siom a fu, mae dyfodol Barker ar y lôn yn edrych yn addawol ar ôl iddi gytuno i ailymuno â thîm Wiggle High5 o Ionawr 2018 - gan adael ei thîm presennol Matrix Pro Cycling.

Mae Barker yn bwriadu cystadlu ar y trac a'r ffordd dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur ym mis Ebrill 2018, sy'n cael eu cynnal fis ar ôl Pencampwriaethau Trac y Byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Elinor Barker yn ailymuno â thîm rasio ffordd Wiggle High5 o Ionawr 2018

Bu i gyn-aelod iau Clwb Seiclo Maindy Flyers amlygu ei dawn pan goronwyd Barker yn bencampwr Treial Amser Ieuenctid y Byd yn 2012 - llwyddiant gafodd ei gydnabod pan enillodd wobr Pencampwr Ieuenctid y Flwyddyn Carwyn James yng Ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru 2012.

Daeth yn bencampwr y byd y flwyddyn ganlynol yn 18 oed, ac yn dal yn fyfyriwr Lefel A, pan oedd yn aelod o driawd ymlid tîm merched Prydain a gurodd Awstralia yn rownd derfynol Pencampwriaeth Seiclo Trac y Byd 2013 yn Belarws.

Gweddill y rhestr fer:

Enillodd Barker ei phrif deitlau i Gymru am y tro cyntaf pan gipiodd arian yn y ras bwyntiau ac efydd yn y ras safonol yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow.

Yn 2015 enillodd deitl Trac Ewropeaidd yn yr ymlid tîm, er bod rhaid i Barker a'i chyd-aelodau fodloni ag arian ym Mhencampwriaethau'r Byd.

Ond tarodd pedwarawd Prydain yn ôl mewn steil y flwyddyn ganlynol drwy ennill medal aur Olympaidd yn yr ymlid tîm yn Rio 2016, a llwyddodd Barker, Laura Kenny, Joanna Rowsell Shand ac Archibald i dorri record byd yn y broses.

Coronwyd blwyddyn ddisglair pan dderbyniodd Barker MBE ar restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

Bydd y bleidlais ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn agor am 08:00 fore Llun, 27 Tachwedd, ac yn cau am 18:00 nos Sadwrn, 2 Rhagfyr.

Fe fydd y manylion pleidleisio llawn ar wefannau Chwaraeon BBC Cymru a Cymru Fyw wedi i'r bleidlais agor.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, 4 Rhagfyr.

Gwobr ar gyfer Cymru'n unig yw hon, a does dim cysylltiad rhyngddi a Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y DU.