Gwobr Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru: Natalie Powell

  • Cyhoeddwyd
Natalie PowellFfynhonnell y llun, Rex Features

Mae chwe enw ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.

Y pêl-droediwr Gareth Bale, y seiclwr Elinor Barker, y para-athletwr Aled Siôn Davies, y chwaraewr rygbi Jonathan Davies, yr ymladdwr Judo Natalie Powell a'r seiclwr Geraint Thomas sydd ar y rhestr fer.

Presentational grey line

Mae Natalie Powell wedi mwynhau blwyddyn orau ei gyrfa hyd yma gyda buddugoliaethau mewn pencampwriaethau sy'n golygu mai hi yw'r judoka benywaidd cyntaf o Brydain i gyrraedd brig rhestr detholion y byd.

Mae'r ymladdwr 27 oed o Feulah ger Llanfair-ym-muallt ym Mhowys - sy'n cystadlu yng nghategori -78kg - wedi bod yn gyson yn cystadlu am fedalau mewn prif gystadlaethau yn 2017.

Fe enillodd Powell fedal efydd ym Mhencampwriaethau Ewrop ym mis Ebrill yn Warsaw, Gwlad Pwyl - ail fedal efydd Ewropeaidd ei gyrfa.

Enillodd arian yn Grand Slam Ekaterinberg yn Rwsia ym mis Mai, gan golli yn erbyn Mama Umeki o Japan yn y rownd derfynol, ac enillodd arian arall y mis canlynol yn Grand Prix Cancun.

Fe wnaeth y canlyniad ym Mecsico sicrhau ei bod ymysg wyth uchaf y detholion ar gyfer Pencampwriaethau'r Byd ym mis Awst, ble enillodd Powell efydd yn Budapest drwy guro'r cyn-bencampwr byd Marhinde Verkerk.

Hon oedd medal gyntaf Powell ar lefel byd-eang, a hon hefyd oedd y gyntaf i unrhyw gystadleuydd o Gymru mewn Pencampwriaeth Byd.

Yna enillodd aur yn Grand Slam Abu Dhabi ym mis Hydref, unwaith eto drwy guro Verkerk o'r Iseldiroedd.

Natalie PowellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Natalie Powell yw'r ddynes gyntaf o Brydain i gyrraedd brig detholion Judo'r byd

Dechreuodd Powell ymladd Judo yn wyth oed, pan ymunodd â Chlwb Judo Irfon yn Llanfair-ym-muallt.

Roedd Powell hefyd yn disgleirio mewn athletau, tennis a phêl-rwyd - campau y mae wedi cynrychioli Cymru ynddynt - drwy gydol ei hamser yn yr ysgol uwchradd, ond dewisodd Judo yn llawn amser yn 2012.

Oherwydd bod cystadleuaeth ffyrnig am le yn nhîm Prydain, ni chafodd Powell ei dewis ar gyfer Gemau Olympaidd 2012, a Gemma Gibbons, oedd yn fwy profiadol, gafodd gyfle i gystadlu yn Llundain yn ei chategori pwysau. Aeth Gibbons yn ei blaen i ennill medal arian yn ei dinas enedigol.

Er bod Powell erbyn hyn yn cael ei hariannu fel judoka, roedd hi'n arfer cyfuno ei hyfforddiant ag astudio am radd mewn Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Caerdydd, a graddiodd yn 2015.

Presentational grey line

Gweddill y rhestr fer:

Presentational grey line

Doedd Judo ddim wedi bod yn rhan o raglen Gemau'r Gymanwlad ers 2002, ond fe'i hailgyflwynwyd ar gyfer Glasgow 2014 a dewiswyd Powell i gynrychioli Cymru ynghyd â'i chwaer iau Kirsty.

Yn gynharach yn y flwyddyn roedd Powell wedi dangos ei bod ar ei gorau drwy ennill arian ym Mhencampwriaeth Agored Ewrop yn Rhufain, ac yn Glasgow fe gyrhaeddodd y rownd derfynol.

Roedd Powell yn wynebu Gibbons, ac fe drechodd hi'r Saesnes i ennill y fedal aur.

Yn anffodus ni fydd Powell yn gallu amddiffyn ei theitl yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 ar Arfordir Aur Awstralia oherwydd nad yw Judo wedi'i gynnwys.

Parhaodd blwyddyn ardderchog Powell yn 2014 wrth iddi ennill y Grand Prix yn Astana ym mis Hydref.

Enillodd efydd ym Mhencampwriaeth Ewrop 2016 yn Kazan, Rwsia, yn ogystal â dwy fedal Meistri IJF - yn cynnwys medal arian hanesyddol yn 2015 wedi iddi fod y judoka cyntaf o Brydain i gyrraedd rownd derfynol y Meistri.

Powell oedd y judoka benywaidd cyntaf o Gymru i gystadlu mewn Gemau Olympaidd pan gafodd ei dewis ar gyfer Gemau Rio 2016 ble gorffennodd yn seithfed.

Os gall Powell barhau i gystadlu ar y lefel y mae hi wedi ei ddangos hyd yma yn 2017, ac osgoi anafiadau, mae ganddi obaith da o ennill ei medal Olympaidd cyntaf yng Ngemau Tokyo 2020.

Presentational grey line

Bydd y bleidlais ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn agor am 08:00 fore Llun, 27 Tachwedd, ac yn cau am 18:00 nos Sadwrn, 2 Rhagfyr.

Fe fydd y manylion pleidleisio llawn ar wefannau Chwaraeon BBC Cymru a Cymru Fyw wedi i'r bleidlais agor.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, 4 Rhagfyr.

Gwobr ar gyfer Cymru'n unig yw hon, a does dim cysylltiad rhyngddi a Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y DU.