Gwobr Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru: Aled Siôn Davies
- Cyhoeddwyd
Mae chwe enw ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.
Y pêl-droediwr Gareth Bale, y seiclwr Elinor Barker, y para-athletwr Aled Siôn Davies, y chwaraewr rygbi Jonathan Davies, yr ymladdwr Judo Natalie Powell a'r seiclwr Geraint Thomas sydd ar y rhestr fer.
Tanlinellodd Aled Siôn Davies ei statws blaenllaw fel Para-athletwr gyda dwy fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd 2017 yn Llundain.
Llwyddodd yr athletwr 26 oed o Ben-y-bont ar Ogwr i amddiffyn ei deitlau disgen F42 a thaflu pwysau F42, gan sefydlu record byd newydd yn yr ail o'r rheiny â thafliad o 17.52m.
Dyma oedd y trydydd tro yn olynol i Davies ennill y ddau deitl yn y gystadleuaeth.
Llwyddodd y Cymro i daflu ei bellter gorau gyda'r ddisgen yn y Triton Invitational yn San Diego, California, pan daflodd 54.85m - dros hanner metr yn bellach na'i dafliad gorau blaenorol.
Yn anffodus doedd y gystadleuaeth ddim yn un ddilys, ac mae ei record byd yn parhau i fod yr 54.14m a daflodd ym Mhencampwriaethau Ewrop 2016.
Ganwyd Davies â talipese a hemi-hemilia ar y goes dde - anabledd sy'n cyfyngu ar sut mae ei goes yn gweithio sy'n golygu bod esgyrn ar goll ac nad yw'r cyhyrau na'r gewynnau yn tyfu.
Fel bachgen ifanc roedd yn cystadlu i Glwb Achub Bywyd ar y Môr Pen-y-bont ar Ogwr cyn iddo droi at athletau.
Profodd Davies ei ddawn taflu yn fuan drwy gipio aur am daflu'r ddisgen a'r taflu pwysau ym Mhencampwriaethau Ieuenctid y Byd 2010, gan wella ar yr arian a enillodd gyda'r ddisgen a'r pedwerydd safle gyda'r taflu pwysau y flwyddyn flaenorol.
Enillodd aur ac arian gyda'r taflu pwysau a'r ddisgen ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd 2011 yn Seland Newydd, ac ar ôl gwella yn dilyn anaf difrifol i'w ben-glin enillodd le gyda thîm Prydain ar gyfer Gemau Paralympaidd 2012.
Cafodd y Cymro baratoad arbennig ar gyfer Llundain 2012 wrth iddo dorri record byd y taflu pwysau F42 gyda thafliad o 14.56m yn Gateshead.
Enillodd yr athletwr amryddawn ddwy fedal yn Llundain 2012 gan gipio'r efydd yn y taflu pwysau F42/44 ac aur yn y ddisgen F42.
Roedd Davies yn rhif un yn y byd ac nid oedd wedi colli cystadleuaeth cyn Pencampwriaethau Athletau IPC y Byd 2013 yn Lyon.
Gosododd record byd newydd yn y taflu pwysau F42 gyda thafliad o 14.71m - gan guro'r pellter blaenorol o 14.43m - cyn troi ei sylw at ei hoff gamp, y ddisgen, a llwyddodd i gyflawni un o dafliadau gorau ei fywyd - 47.62m - yn y rownd olaf, gan ennill o fwy na chwe metr.
Dyddiau ar ôl ei ddau aur yn Lyon, sefydlodd Davies record stadiwm newydd wrth ennill gyda'r taflu pwysau yng Ngemau Pen-blwydd Stadiwm Olympaidd Llundain.
Gweddill y rhestr fer:
Yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow, enillodd Davies arian i Gymru yn y ddisgen F42/44, ac ym Mhencampwriaethau Athletau IPC Ewrop yn Abertawe y flwyddyn honno, enillodd ddau aur yn y ddisgen a'r taflu pwysau F42.
Enillodd ddau aur yn y campau hynny hefyd ym Mhencampwriaethau IPC y Byd 2015 yn Doha ym mis Hydref, gan dorri'r record byd â thafliad o 49.59m yn y ddisgen F42 a sefydlu record y bencampwriaeth gyda thafliad o 14.95m gyda'r taflu pwysau F42.
Ni chafodd gystadleuaeth y ddisgen F42 ei chynnal fel rhan o raglen Gemau Paralympaidd Rio 2016, ond enillodd Davies aur yn y taflu maen F42.
Yn gynharach yn y flwyddyn roedd wedi torri record y byd gyda'r ddisgen a'r taflu pwysau a chipio aur yn y campau hynny ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Grosseto yn Yr Eidal.
Bydd y bleidlais ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn agor am 08:00 fore Llun, 27 Tachwedd, ac yn cau am 18:00 nos Sadwrn, 2 Rhagfyr.
Fe fydd y manylion pleidleisio llawn ar wefannau Chwaraeon BBC Cymru a Cymru Fyw wedi i'r bleidlais agor.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, 4 Rhagfyr.
Gwobr ar gyfer Cymru'n unig yw hon, a does dim cysylltiad rhyngddi a Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y DU.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2017