Isetholiad: Carwyn Jones yn croesawu dewis Jack Sargeant

  • Cyhoeddwyd
Jack Sargeant
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jack Sargeant ei ddewis yn ymgeisydd Llafur gan yr aelodau lleol yn gynharach ym mis Ionawr

Mae Carwyn Jones wedi rhoi clod i "ymrwymiad" Jack Sargeant, wedi iddo gael ei ddewis yn ymgeisydd Llafur yn isetholiad Alun a Glannau Dyfrdwy.

Mae mab 23 oed Carl Sargeant yn ceisio olynu ei dad, fu'n cynrychioli'r etholaeth tan ei farwolaeth y llynedd.

Cafodd ei ddarganfod yn farw ddyddiau wedi i Mr Jones ei ddiswyddo o'i gabinet.

Dywedodd y prif weinidog wrth Radio Cymru fod Jack Sargeant wedi "dangos ymrwymiad mawr".

Ond gwrthododd gadarnhau a fyddai'n ymweld â'r ardal i ymgyrchu cyn y bleidlais.

'Cam mawr'

Mewn cyfweliad ar raglen Y Post Cyntaf, dywedodd Mr Jones: "Ga' i dalu teyrnged a chlod i Jack, mae wedi dangos ymrwymiad mawr i gymryd y cam hyn, mae'n gam mawr i rywun sydd mor ifanc, ac mae hynny'n dangos yr ymrwymiad sydd ganddo tuag at ei wleidyddiaeth e.

"Wrth gwrs dros y dyddiau nesa' byddwn ni gyd yn edrych ar y dyddiadur sydd o'n blaenau ni, er mwyn gweld ym mha ffordd gallwn ni helpu yn y ffordd fwyaf effeithiol."

Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n mynd i'r etholaeth i ymgyrchu ar ran Jack Sargeant, ni roddodd ateb pendant.

"Mae'n rhywbeth i ystyried ar hyn o bryd, mae'r ymgyrch wedi dweud bod nhw moyn cael pobl ar draws Prydain i weithio, a bydd pobl dwi'n siŵr yn cysylltu gyda'r ymgyrch i weld ym mha ffordd gallwn ni fod mwyaf effeithiol i'r ymgyrch."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn Jones y llynedd bod y cyfnod pan fu farw Carl Sargeant yn "ddyddiau tywyll iawn i'r Cynulliad"

Carrie Harper yw ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer yr isetholiad, sy'n cael ei gynnal ar 6 Chwefror.

Dewisodd y Ceidwadwyr y gyn-nyrs Sarah Atherton fel eu hymgeisydd, a'r cynghorydd cymuned Donna Lalek fydd yn cynrychioli'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd UKIP yn y gorffennol na fyddan nhw'n cynnig ymgeisydd oni bai fod Llafur yn dewis ymgeisydd gwahanol i Jack Sargeant.

Cafodd Carl Sargeant ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah ddyddiau wedi iddo golli ei swydd fel ysgrifennydd cymunedau Llywodraeth Cymru yn sgil honiadau am ei ymddygiad.

Roedd wedi dweud bod yr honiadau'n "sioc" iddo ac wedi addo adfer ei enw da.

Bydd ymchwiliad annibynnol yn ystyried amgylchiadau ei ddiswyddiad.