Rhys Webb allan o'r Chwe Gwlad gydag anaf i'w ben glin
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau bod y mewnwr Rhys Webb allan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad gydag anaf i'w ben glin.
Daw'r newyddion wedi wythnos hynod rwystredig i'r Prif Hyfforddwr, Warren Gatland, sydd eisoes wedi colli , dolen allanol a Liam Williams am o leiaf rhai gemau oherwydd anafiadau.
Bydd Webb nawr yn ymuno â Jonathan Davies, Dan Lydiate a Sam Warburton ar y rhestr anafiadau, ac mae ansicrwydd hefyd am ffitrwydd Taulupe Faletau.
Mae'n debyg y bydd y clo Jake Ball a'r maswr Rhys Priestland hefyd yn methu rhan o'r gystadleuaeth.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: "Mae Rhys Webb wedi cael ei ryddhau o'r garfan o ganlyniad i anaf i'w ben glin."
Mae Tomos Williams o'r Geision, sydd heb ennill cap rhyngwladol eto, wedi'i alw i'r garfan yn lle Webb.
Bydd Cymru yn wynebu'r Alban yn Stadiwm Principality yn eu gêm gyntaf o'r gystadleuaeth ar 3 Chwefror.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2018