Tirlithriad Ystalyfera: Dim gorfodi mwy o'u cartrefi
- Cyhoeddwyd
Fydd 'na ddim mwy o bobl yn cael eu gorfodi i adael eu tai yn yr ardal Ystalyfera am y tro o ganlyniad i dirlithriadau, yn ôl Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Mewn cyfarfod cyhoeddus nos Lun, fe drafodwyd y posibilrwydd y bydd rhagor o dirlithriadau yn digwydd yn yr ardal.
Yn ôl y cyngor, mae arolygon manwl o ardal Panteg yn awgrymu bod 'na bryder am sefydlogrwydd y tir ger dros 50 o gartrefi.
Y llynedd bu'n rhaid symud pobl o 10 o dai ar Heol Cyfyng yn ardal Pant-teg ar ôl i dir y tu ôl i'r adeiladau gwympo i lawr y mynydd.
Bellach, mae'r cyngor yn pryderu y gall tir ar y mynydd uwchben y pentre' gwympo tuag at dai ar ochr arall Heol Cyfyng, Heol y Graig, a Heol yr Eglwys.
Yn y cyfarfod dywedodd Nicola Pearce o Gyngor Castell-nedd Port Talbot byddai iawndal i'r trigolion yn "dibynnu ar ganlyniad apêl sydd yn digwydd ar hyn o bryd".
Ond byddai arian ar gael i bobl na fyddai'n gallu dychwelyd i'w cartrefi. Mae ychydig o arian wedi'i dalu allan yn barod i rai sydd allan o boced.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod grant o £800,000 ar gael i Gyngor Castell-nedd Port Talbot i'w helpu i ymateb i'r tirlithriadau diweddar sy'n parhau ym Mhant-teg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd23 Awst 2017
- Cyhoeddwyd23 Awst 2017