Profion cenedlaethol 'yn ymylu ar gam-drin plant'
- Cyhoeddwyd
Mae'r profion cenedlaethol "yn ymylu ar gam-drin plant" oherwydd yr effaith emosiynol ar rai disgyblion, yn ôl pennaeth ysgol gynradd.
Dywedodd Nia Guillemin wrth raglen Manylu ar BBC Radio Cymru nad oes angen y profion gan fod y "pris yn rhy uchel" ac nad ydyn nhw'n rhoi unrhyw wybodaeth newydd i athrawon gan eu bod yn asesu eu disgyblion yn gyson.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y profion yn rhoi gwybodaeth annibynnol, gwerthfawr, na ddylai'r profion greu straen, a bod gwelliannau ar y ffordd fydd yn gwella'r system.
Mae'r profion mewn rhifedd a llythrennedd yn cael eu gosod bob mis Mai i ddisgyblion rhwng chwech a 14 oed.
'Problemau emosiynol dwys'
Dywedodd Ms Guillemin, pennaeth Ysgol Bethel ger Caernarfon: "Mae hyn yn ffinio ar gam-drin plant.
"Dwi'n dweud hynny oherwydd yr effaith emosiynol amlwg sydd ar nifer fawr o'r plant yma.
"Mae yna blant yn dod i'r ysgol efo problemau emosiynol dwys a dydyn nhw ddim yn gallu ymdopi efo'r newid trefn yma.
"Dwi wedi gweld plant uchel eu gallu yn poeni gymaint nes eu bod yn crio, torri calonnau, poen bol - plant ifanc yn gwlychu eu hunain yng nghanol prawf am eu bod nhw'n poeni."
Ychwanegodd bod yr ysgol yn ceisio tynnu'r pwysau oddi ar y plant, ond bod disgyblion yn naturiol eisiau gwneud yn dda a rhai'n teimlo'r pwysau er gwaethaf ymdrechion athrawon.
Dywedodd Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams wrth y rhaglen ei bod wedi ymweld ag ysgol yn ystod y cyfnod profion lle nad oedd unrhyw straen i'w weld ar y plant, ac nad oedden nhw'n ymwybodol eu bod yn sefyll prawf hyd yn oed.
'Pryderon mawr'
Mewn ymateb i sylwadau Ms Guillemin, dywedodd Ms Williams: "Nid fel yna ddylen nhw fod. Dwi eisiau i blant fod yn hapus yn yr ysgol.
"Rydyn ni'n gwybod bod lles plant yn hanfodol os ydyn ni'n disgwyl iddyn nhw fynd ymlaen a gwneud y mwya' o'r cyfleoedd addysgol, ac os ydy plant yn gofidio ac yn teimlo'n sâl yna dydyn nhw ddim yn mynd i wneud eu gorau.
"Nid dyna pan maen nhw yna, a byddwn i efo pryderon mawr os oedd y sgyrsiau rhwng staff a phlant neu rieni a phlant, yn rhoi'r math yna o bwysau arnyn nhw."
Fe siaradodd Manylu hefyd â chymhorthydd dosbarth sydd wedi gweithio mewn sawl ysgol wahanol, ond nid yn Ysgol Bethel.
Dywedodd bod y profion cenedlaethol yn wastraff amser gan nad oes cysondeb yn y ffordd maen nhw'n cael eu cynnal.
Ychwanegodd bod rhai ysgolion yn eu cynnal dan amodau prawf, eraill yn ei gwneud hi'n hawdd i blant gopïo, a rhai athrawon hyd yn oed yn helpu plant.
'Adlewyrchu yn ddrwg'
Dywedodd y cymhorthydd - sydd eisiau aros yn ddienw gan ei bod dal i weithio mewn ysgol: "Dwi 'di gweld athrawon yn pwyntio tuag at ateb ac yn ysgwyd eu pen am eu bod eisiau i'r plant maen nhw wedi eu rhoi yn yr haen ucha' ddod allan yn dda yn y profion.
"Maen nhw'n teimlo ei fod yn adlewyrchu yn ddrwg arnyn nhw os nad ydyn nhw'n llwyddo.
"Dwi hefyd wedi gweld athrawon - tra'n rhoi rhywfaint o arweiniad ynglŷn â sut gwestiynau sydd yn codi yn y profion - yn dysgu mewn ffordd keen ofnadwy a rhoi papurau blynyddoedd cynt drosodd a drosodd am wythnosau o flaen y profion.
"Mae 'na rieni yn dod mewn yn dweud bod eu plant nhw ddim eisiau dod i'r ysgol, a'u bod yn crio a ballu."
Dywedodd Ms Williams: "Dwi wedi bod yn hollol glir, dydyn ni ddim yn defnyddio'r profion llythrennedd a rhifedd i feirniadu perfformiad ysgolion.
"Maen nhw'n fodd o asesu fel ein bod ni'n gwybod sut mae pob plentyn unigol yn ei wneud, ac mae canlyniadau'r profion yn gallu helpu ni wybod beth yw'r cam nesaf yn eu haddysg.
"Dydi'r profion ddim yno i feirniadu perfformiad yr ysgolion hynny, ac mae'n rhaid i ni fod yn glir iawn am hynny.
"Os oes pobl broffesiynol allan yna sydd ddim yn deall hynny, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y neges yn mynd allan i staff, rhieni a phlant."
Profion ar-lein
Ychwanegodd bod y llywodraeth ar fin cyflwyno newidiadau sy'n ateb rhai o'r pryderon.
Y flwyddyn nesaf bydd y profion cenedlaethol yn symud ar-lein, ac yn hytrach na rhoi'r un papur i bawb bydd y cwestiynau'n amrywio yn unol â gallu'r disgyblion.
Y bwriad yw cael mwy o wybodaeth annibynnol am bob unigolyn fel bod rhieni ac athrawon yn gallu helpu'r disgybl, heb achosi gormod o bwysau.
Manylu - Pwysau Arholiadau, ar Radio Cymru ddydd Iau am 12:30, dydd Sul am 16:00, ac ar yr iPlayer o 06:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd4 Mai 2018
- Cyhoeddwyd2 Mai 2017