Cytundeb uno cwmni dur Tata â Thyssenkrupp yn agos
- Cyhoeddwyd

Mae arbenigwyr yn y diwydiant dur wedi dweud fod amheuaeth yn parhau ynglŷn â dyfodol y safle.
Mae cytundeb rhwng cwmni dur Tata a chwmni o'r Almaen, Thyssenkrupp i uno yn agos at greu'r ail wneuthurwr dur mwyaf yn Ewrop, ar ôl Arcelor Mittal.
Mae ffynonellau'n dweud gallai cytundeb - sydd wedi bod yn cael ei drafod ers dros flwyddyn - gael ei gwblhau yn y dyddiau nesaf.
Byddai'n gweld safleoedd Tata yn y DU yn uno gyda Thyssenkrupp sydd â gwerthiant blynyddol o £13bn.
Bydd y safleoedd yn cynnwys y gwaith dur ym Mhort Talbot.
Ymrwymo i Bort Talbot
Mae trafodaethau wedi eu harafu gan gynllun pensiwn gweithwyr Tata.
Dri mis yn ôl, fe wnaeth y rheoleiddiwr pensiynau roi sêl bendith ar greu cronfa bensiwn newydd wedi i Tata gytuno i dalu £550m a rhoi cyfran ecwiti o 33% yn Tata Steel UK i'r gronfa.
Yn ddiweddar mae Thyssenkrupp wedi wynebu pwysau gan gyfranddalwyr er mwyn sicrhau telerau gwell gan Tata.
Mae Tata a Thyssenkrupp eisoes wedi ymrwymo i'r safle ym Mhort Talbot, sef y safle dur mwyaf yn y DU.
Ond mae arbenigwyr yn y diwydiant dur wedi dweud fod amheuaeth yn parhau ynglŷn â dyfodol y safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2017
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd20 Medi 2017