Heddlu i ddechrau chwilio ar safle gwesty aeth ar dân

  • Cyhoeddwyd
Tân gwesty Aber
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n dal i fonitro'r safle gyferbyn â'r prom yn Aberystwyth

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bydd y gwaith chwilio yng ngweddillion gwesty aeth ar dân yn nhref Aberystwyth yn dechrau cyn bo hir.

Mae arbenigwyr wedi bod yn ceisio diogelu strwythur yr adeilad wedi'r tân yng ngwesty Tŷ Belgrave ar 25 Gorffennaf eleni.

Bydd cynnydd o ran swyddogion yr heddlu yn y dref yn y dyfodol agos wrth i ymchwilwyr ymdrechu i ddod o hyd i ddyn sydd ar goll ac i gasglu tystiolaeth bellach sy'n ymwneud a'r tân.

Cafodd naw oedolyn a thri phlentyn eu hachub o'r digwyddiad, ond mae un person yn dal ar goll wedi'r digwyddiad.

Mae un dyn wedi cael ei gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd yn dilyn y digwyddiad.

Bydd Damion Harris, 30 oed, yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 24 Awst.

Mae disgwyl i'r chwilio bara sawl wythnos a does dim disgwyl i'r gwaith gael effaith ehangach ar y dref na'i phobl.