Protest yn dilyn marwolaeth disgybl 14 oed yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
protest
Disgrifiad o’r llun,

Byron John a'i gefnogwyr y tu allan i Ysgol St John Lloyd ddydd Gwener

Mae tua 50 o bobl yn gwisgo rhosglymau melyn wedi cwrdd y tu allan i ysgol uwchradd yn Llanelli er mwyn cefnogi protest tad wedi marwolaeth disgybl yr wythnos diwethaf.

Y gred yw bod Bradley John, 14 oed, wedi lladd ei hun yn Ysgol Gatholig St John Lloyd.

Ddydd Gwener fe wnaeth ei dad, Byron John, gyflwyno llythyr i'r ysgol yn galw am ymddiswyddiad y pennaeth am yr hyn y mae e'n ei weld fel "y modd y mae wedi ymdrîn â'r sefyllfa".

Mae'r ysgol wedi dweud fod eu meddyliau a'u gweddïau gyda theulu Bradley, a'r cyngor yn dweud eu bod am "gefnogi pawb" sydd wedi eu heffeithio.

Mae Mr John yn cyhuddo'r ysgol o fethu â thaclo achosion o fwlio, gan ddweud fod ei fab wedi dioddef bwlio am 18 mis cyn ei farwolaeth.

"Rwyf am danlinellu'r diffyg gwarchod a methiannau yn y system," meddai.

"Mae e fel bod popeth wedi cael ei 'sgubo dan y carped.

"Mae gyd o'r problemau gafodd eu hamlinellu wedi cael eu hanwybyddu a dwi eisiau gwybod pam."

Nid yw'r ysgol wedi ymateb i'r honiadau.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bradley John yn ddisgybl yn Ysgol St John Lloyd, Llanelli

Dywedodd Gareth Morgans, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Gaerfyrddin: "Mae ein ffocws ar hyn o bryd ar gefnogi pawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad trasig yma.

"Rydym wedi cynnig i gwrdd â Mr John a'i deulu i gynnig unrhyw gefnogaeth bellach sydd ei angen ac i glywed am unrhyw bryderon sydd ganddynt.

"Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn digwydd yr wythnos nesaf."

'Sicrhau diogelwch a lles'

Ddydd Iau fe wnaeth yr ysgol roi datganiad yn dweud fod eu meddyliau a'u gweddïau gyda theulu Bradley a'i chwaer Danielle.

Roedd hefyd yn cynnwys sylw gan Mr Morgans: "Rydym yn deall fod ychydig o bryder ynglŷn â digwyddiad yn yr ysgol."

Ychwanegodd: "Rydym yn cydweithio yn agos gyda'r ysgol a nifer o asiantaethau i sicrhau diogelwch a lles yr holl ddisgyblion, staff ac aelodau o gymuned yr ysgol.

"Hoffwn gydnabod cyfraniad proffesiynol a thosturi'r prifathro a'i staff ar yr adeg anodd yma.

"Rwyf hefyd am ddiolch i rieni am eu cefnogaeth, a'r disgyblion am eu haeddfedrwydd."