Cau'r llen ar ffrae rhwng artistiaid a chwmni NTW
- Cyhoeddwyd
Mae'n ymddangos fod yr anghydweld rhwng dramodwyr a National Theatre Wales wedi ei ddatrys gyda'r ddwy ochr yn son am drafodaethau adeiladol.
Daw hyn ar ôl i ddramodwyr honni ym mis Medi bod diffyg cyfleoedd gyda NTW gan gyhuddo'r corff o danseilio artistiaid Cymreig.
Fe wnaeth 40 o artistiaid lofnodi llythyr yn cwyno am ddiffyg cyfleoedd i ddramodwyr ac artistiaid o Gymru
Ar y pryd dywedodd Clive Jones cadeirydd NTW eu bod yn fodlon trafod y mater a bu cyfarfod rhwng rheolwyr NTW a rhai o'r artistiaid ddydd Sadwrn.
Cafodd datganiad ar y cyd ei ryddhau ddydd Mercher yn dweud: "Fe wnaethom gwrdd ddydd Sadwrn am drafodaeth a oedd yn un gonest, dewr a chymhleth - hwn yw'r cyntaf o beth rydym yn gobeithio fydd yn ddeialog cyson ac adeiladol."
Fe wnaeth y dramodwr Lisa Parry, un o'r rhai wnaeth lofnodi'r llythyr gwreiddiol, drydar fod camau dewr wedi eu cymryd a'i bod yn ymddangos "bod y ffrae rhwng 40 o ddramodwyr Cymreig a National Theatre Wales wedi ei ddatrys".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd24 Medi 2018
- Cyhoeddwyd21 Medi 2018
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2016