Honiadau o ddiffyg tryloywder "annerbyniol" yn erbyn HIW

  • Cyhoeddwyd
Kris WadeFfynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kris Wade ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio Christine James yn 2016

Ni chafodd dioddefwyr ymosodiadau rhyw honedig "eu trin fel y dylen nhw" gan ymchwiliad a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn ôl cyfreithiwr.

Mae tair menyw yn honni bod Kris Wade, cyn gynorthwy-ydd nyrsio, wedi ymosod arnyn nhw tra'i fod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.

Blynyddoedd yn ddiweddarach cafodd Wade ei garcharu am lofruddio Christine James mewn ymosodiad rhyw.

Dros flwyddyn wedi diwedd adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) o'r achos, nid yw dwy o'r achwynwyr wedi cael eu cyfweld, nac wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf gan AGIC.

Yn ôl y cyfreithiwr sy'n cynrychioli dau o'r achwynwyr, Alan Collins, mae'r diffyg tryloywder yn "annerbyniol", ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod AGIC wedi cysylltu â'r unigolion perthnasol i gyd.

Daeth yr adroddiad gwreiddiol i'r casgliad nad oedd y bwrdd iechyd wedi ymchwilio i'r tri honiad yn ddigon "cadarn", cyn i AGIC dderbyn cais i ddarganfod oes oedd mwy i'w ddysgu o'r achos.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod AGIC wedi cysylltu â'r unigolion perthnasol ac na fyddai hi'n addas i wneud sylw ar adolygiad annibynnol sydd heb ei gwblhau.

'Amheuon mawr'

Yn ôl Mr Collins, nid yw'r menywod, na chwaith eu teuluoedd, wedi cael eu trin fel y dylen nhw.

"Hyd yma mae gen i amheuon mawr am yr adolygiad - dydi o jest ddim yn teimlo'n dryloyw - dydyn nhw ddim wedi cysylltu â rhai o'r teuluoedd na'r dioddefwyr o gwbl," meddai.

Dywedodd mai dim ond ymchwiliad annibynnol fyddai'n gallu galw ar dystion a thystiolaeth gan yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, a bod angen pob darn o dystiolaeth er mwyn dod i gasgliad teg.

Ychwanegodd: "Mae angen i'r cyhoedd fod yn hyderus y byddai aelod o'u teulu sy'n gorfod mynd i'r ysbyty yn gwbl ddiogel - mae'n rhaid i ni wybod os yw'r system ddiogelu bresennol yn gweithio neu ddim.

"Mae hi'n rhy hawdd ar hyn o bryd i gyflogwr gael gwared â gweithwyr - mae hyn fel cicio'r can yn bellach i lawr y ffordd."

'Tryloyw ac agored'

Pan mae yna ddigwyddiad yn ymwneud â diogelwch cleifion o fewn y GIG neu ofal cymdeithasol, dylai fod adroddiad digwyddiad difrifol yn cael ei wneud, fydd wedyn yn hysbysu rheolwyr a Llywodraeth Cymru.

Cafodd 350 o'r digwyddiadau hyn eu cofnodi ar hyd byrddau iechyd Cymru yn 2010/11, i gymharu â 2329 yn 2017/18.

O ran y system gofal cymdeithasol, cafodd 28,981 adroddiad digwyddiad difrifol eu gwneud yn 2017 - cynnydd o 16% ers 2015 (24,974).

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cynnydd blynyddol yn adlewyrchiad o'r diwylliant diogelu tryloyw ac agored sydd gan y sefydliad. Mae yna ddisgwyl nawr i staff y GIG gofnodi dwy o ddigwyddiadau i gymharu â blynyddoedd blaenorol.

Er fod y ffigyrau yn dangos fod pethau yn gwella, yn ôl Mr Collins mae yna dal gwestiynau i'w hateb o ran pam fod cyn lleied o ddigwyddiadau wedi cael eu cofnodi am gyhyd.