Pennaeth cwmni theatr yn 'agored i drafodaeth'
- Cyhoeddwyd
Dywed pennaeth cwmni National Theatre Wales (NTW) ei bod hi'n "agored i drafodaeth" ynglŷn â llwybr datblygiad y cwmni yn y dyfodol.
Dyma'r tro cyntaf i Kully Thiarai drafod sefyllfa'r cwmni ers i 40 o ddramodwyr gwyno bod NTW yn tanseilio artistiaid o Gymru.
Ac fe wnaeth Ms Thiarai, sydd wedi bod yn gyfarwyddwr artistig ers 2016, gydnabod fod rhywbeth wedi mynd o'i le o ran y berthynas rhwng y cwmni a'r dramodwyr.
Ym mis Medi fe wnaeth 40 o awduron lofnodi llythyr yn cwyno am ddiffyg cyfleoedd i ddramodwyr ac artistiaid o Gymru.
Dywedodd Ms Thiarai wrth BBC Cymru fod y llythyr wedi bod yn annisgwyl.
"Mae'n amlwg o'r safbwynt os ydych yn cyfri' eich hunain yn sefydliad agored a'ch bod yn teimlo fod pobl yn gallu siarad â chi - yna roedd o'n siomedig," meddai.
"Ond rwy'n cydnabod fod yna bryderon gwirioneddol a bod yna gwestiynau difrifol roeddynt am eu trafod.
"Maen nhw'n gwestiynau amserol wrth i ni agosáu at ein pen-blwydd yn ddeg oed."
Mae NTW yn derbyn tua £1.5m y flwyddyn oddi wrth Gyngor y Celfyddydau.
Fe fydd rhai o'r awduron wnaeth lofnodi'r llythyr o gŵyn yn cwrdd â rheolwyr NTW, gan gynnwys Ms Thiarai, nos Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd24 Medi 2018
- Cyhoeddwyd21 Medi 2018
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2016