Cwest: Merch ddwy oed wedi marw drwy anffawd
- Cyhoeddwyd
Mae cwest yn Aberystwyth wedi cofnodi marwolaeth drwy anffawd yn achos merch ddwy flwydd oed o ardal Llandysul ar ôl i'r car yr oedd hi ynddo lithro i Afon Teifi.
Roedd y ferch fach wedi cael ei gadael ar ben ei hun am gyfnod byr iawn.
Yn wreiddiol roedd y fam yn credu i'r car gael ei ddwyn ond clywodd y cwest fod camerâu cylch cyfyng yn dangos fod y fam ond wedi gadael Kiara Moore am ddau funud ac un eiliad.
Fe gafodd ei chorff ei ddarganfod gan ddeifwyr ar 19 Mawrth y llynedd yn Aberteifi.
Wrth roi teyrnged i Kiara, dywedodd ei theulu bod ei marwolaeth wedi eu "gadael gyda bwlch mawr" yn eu bywydau, a'u bod yn siarad amdani bob dydd.
'Merch fach arbennig'
Clywodd y cwest fod y fam, Kim Rowlands wedi gadael y car Mini y tu allan i'w busnes, a'i bod wedi ei barcio ar lethr oedd yn arwain i'r afon.
Roedd hi wedi mynd i ôl arian am nad oedd ei cherdyn banc yn gweithio gan ei bod newydd eistedd arno a'i dorri.
Dywedodd tad Kiara, Jet Moore, nad oedd y teulu wedi cael unrhyw broblemau gyda'r Mini cyn hynny.
Ychwanegodd nad oedd wedi gweld Kiara erioed yn chwarae gydag offer y car, a doedd o ddim yn credu fod ganddi'r nerth i ryddhau'r brêc llaw.
Pan gafodd y car ei ddarganfod roedd yn y trydydd gêr a doedd y brêc llaw ddim yn ei le.
Dywedodd Aled Thomas, swyddog fforensig, fod y brêc llaw yn gweithio ac y byddai wedi cymryd "ychydig o ymdrech" i'w ryddhau.
Mewn datganiad dywedodd Kim Rowlands fod Kiara mewn sedd plentyn wedi ei osod yn y sedd flaen ac nad oedd gwregys yn ei le.
Dywedodd fod y ferch wedi bod yn ddireidus ac felly ei hunig amcan oedd ei bod wedi "cael pum munud o ddwli".
Pan adawodd y car roedd y ferch yn "canu, gweiddi a chwerthin".
Dywedodd yr heddwas Shane Davies y dybiaeth fwyaf tebygol oedd y gallai Ms Rowlands fod wedi rhoi'r car yn y trydydd gêr a rhyddhau'r brêc llaw wrth baratoi i adael cyn iddi dorri ei cherdyn banc - a'i bod wedi camgymryd gan gredu fod y car mewn gêr a'r brêc ymlaen.
Wrth gofnodi rheithfarn o farwolaeth drwy anffawd, dywedodd y crwner Peter Brunton ei bod hi'n bur debyg nad oedd y brêc llaw yn ei le pan adawyd Kiara yn y car.
Ychwanegodd ei fod yn cydymdeimlo'n ddwys â rhieni Kiara, a bod colli plentyn yn ddigwyddiad cwbl drychinebus i unrhyw riant.
'Siarad amdani bob dydd'
Mewn teyrnged i Kiara, dywedodd ei theulu ei bod yn "ferch fach arbennig a oedd wedi byw bywyd llawn cariad ac anturiaethau gyda'i theulu agos ac estynedig".
Dywedodd y teulu bod ei marwolaeth wedi "gadael bwlch mawr yn ein bywydau eleni" a'u bod yn siarad amdani gyda'i brawd a'i chwiorydd bob dydd.
"Rydym wedi dechrau ymddiriedolaeth i godi ymwybyddiaeth o sut all gweithgareddau tu allan helpu pobl gyda phroblemau iechyd meddwl a phobl sy'n galaru, ac i gefnogi teuluoedd fel ein un ni sydd wedi mynd trwy amser caled iawn."
Diolchodd y teulu am gymorth a chefnogaeth yr heddlu, Ambiwlans Awyr Cymru, RNLI, tîm yr ysbyty ac elusen 2 Wish Upon a Star.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2018