Dyfarnu statws trysor i wrthrychau Oes Efydd o Abertawe
- Cyhoeddwyd

Roedd celc Oes Efydd o ardal Mawr ymhlith y darganfyddiadau hynaf
Mae nifer o wrthrychau a gafodd eu darganfod mewn gwahanol rannau o Abertawe gan aelodau o'r cyhoedd wedi eu dyfarnu yn ddarnau o drysor.
Yn eu plith mae darnau o fwyell yn ogystal â phalstaf a chleddyf main, gafodd eu ar dir fferm yn ardal Mawr, sy'n dyddio nôl bron i 3,000 o flynyddoedd.
Mae creiriau gan gynnwys broetsh o'r Oesoedd Canol a modrwyau o'r 16eg a 17eg Ganrif hefyd wedi eu darganfod.
Fe wnaeth y crwner Colin Phillips ddyfarnu eu bod oll yn drysorau, ac fe fyddan nhw'n cael eu harddangos yn y pen draw yn Amgueddfa Abertawe.

Broetsh arian canoloesol a dwy fodrwy a ddaeth i'r fei yn Sgeti
Manylion y darganfyddiadau:
Pum gwrthrych o'r Oes Efydd gan gynnwys darnau o fwyell socedog, palstaf a chleddyf main, yn ogystal â dwy ffroenell fwrw, y cyfan wedi'u gwneud o efydd;
Broetsh arian canoloesol a dwy fodrwy blaen wedi'u gwneud o aloi plwm-tun sy'n dyddio o'r 13eg neu'r 14eg ganrif;
Modrwy arian addurnol o'r 16eg ganrif;
Modrwy bwysi (posy) aur o'r 17eg ganrif.

Yn ardal Penlle'r-gaer y daeth y fodrwy arian o'r 16eg Ganrif i'r fei
Dywedodd Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru, bod y broetsh a'r modrwyau "yn dystiolaeth bwysig sy'n rhoi gwybodaeth i ni am gylchrediad ffasiynau gemwaith canoloesol a diweddarach o gwmpas Cymru".
Roedd yr unigolion a ddaeth o hyd i'r gwrthrychau wedi cysylltu yn y lle cyntaf gyda threfnwyr Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) - proses o gofnodi a chyhoeddi canfyddiadau archeolegol gan aelodau'r cyhoedd.
Byddan nhw nawr yn cael eu prynu gan Amgueddfa Abertawe, yn dilyn prisiad annibynnol.

Mae'r arysgrif 'I WISH IT BETTER' tu fewn i'r fodrwy bwysi aur o'r 17eg Ganrif
Mae'r prosiect hwnnw'n rhan o Gronfa'r Loteri Genedlaethol ac yn helpu amgueddfeydd lleol a chenedlaethol yng Nghymru i brynu arteffactau, boed yn drysor ai peidio.
Dywedodd Emma Williams o Amgueddfa Abertawe eu bod yn "falch iawn o allu caffael yr eitemau gwych hyn ar gyfer casgliadau Amgueddfa Abertawe".
"Byddant yn rhoi darlun cliriach i ni o fywydau hen drigolion Abertawe a'r cylch, ac edrychwn ymlaen at eu harddangos i bawb sy'n byw yma heddiw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2018