Dioddefwraig camdriniaeth am ddiogelu plant eraill
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a gafodd ei cham-drin pan yn blentyn yn galw am greu mannau diogel i blant.
Pedair oed oedd Maya Meftahi pan ddechreuodd ei thad ei cham-drin - cafodd ei ddal wedi i berthynas iddo ddigwydd dod o hyd i dystiolaeth fideo yn ei gartref.
Bellach mae Ms Meftahi yn ymgyrchu i gael "tai plant" yng Nghymru er mwyn darparu man diogel a chefnogaeth i eraill.
Dywed Llywodraeth Cymru "eu bod wedi'u hymrwymo" i roi mwy o gymorth i blant sy'n cael eu cam-drin.
Mae Ms Meftahi, sy'n 35 oed, wedi penderfynu peidio aros yn anhysbys wrth rannu ei stori.
'Wedi drysu'
Fe barhaodd y gamdriniaeth tan ei harddegau hwyr, ac roedd Ms Meftahi yn credu bod y cam-drin wedi stopio bryd hynny.
Ond gan bod ei thad yn defnyddio cyffuriau 'treisio ar ddêt' doedd hi ddim yn cofio beth oedd wedi digwydd.
Yn ddiweddarach cafodd fideo a dyddiadur o'r gamdriniaeth eu darganfod gan berthynas ac aeth ei thad i'r llys.
Cafodd Ms Meftahi fraw yn 2011 pan glywodd gan yr heddlu fod ei thad wedi cael ei arestio - roedd hi ar y pryd ar ei gwyliau yn Tunisia gyda'i gŵr a'i phlentyn.
Ei geiriau i'r heddlu oedd: "Beth ydych chi'n siarad amdano - mae'n rhy hwyr. Pam ydych chi'n trio dinistrio fy mywyd nawr pan dwi'n ceisio ei ailadeiladu?"
Cafodd ei thad ei garcharu 10 mlynedd yn ddiweddarach am losgach, ymosod yn anweddus ac ymddwyn yn anweddus tuag at blentyn.
Mae bellach wedi ei ryddhau o dan drwydded ar ôl treulio chwe mlynedd yn y carchar.
Beth yw plentyndod?
Mae'r gamdriniaeth wedi cael effaith fawr ar Ms Meftahi, wrth siarad â'r BBC dywedodd iddi dyfu i fyny "mewn amgylchedd niweidiol a dryslyd".
"Fel plant rydyn ni am gael ein magu, ein caru, ein diogelu ac ry'n yn parchu ein rhieni - rydyn ni am eu hefelychu.
"Fel plentyn, pan chi'n cyrraedd oedran o wybod nad yw pethau'n iawn - chi mewn stâd ddryslyd o feddwl.
"Yn eich arddegau chi ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng cariad a chasineb, ac awdurdod a meithin perthynas amhriodol.
"Roedd y cyfan yn fagwraeth heriol ac ofnadwy - pan chi'n cael camdriniaeth rhywiol, emosiynol a chorfforol - chi'n mynd drwy blentyndod trawmatig ac yn gofyn beth yw plentyndod?
"Dwi ddim yn gwybod beth yw hynny."
Mae Ms Meftahi yn rhedeg menter gymdeithasol sy'n cefnogi merched sydd wedi dioddef trais.
Mae hi nawr yn galw am gyflwyno "tai plant" yng Nghymru - mannau lle y gall plant a phobl ifanc gael cymorth meddygol a chymdeithasol ynghyd â gwasanaethau therapiwtig.
Mae dau le tebyg ar gael yn Llundain, y ddau wedi'u modelu ar Barnahus yng Ngwlad yr Iâ.
Ar hyn o bryd dim ond dau le sydd yng Nghymru lle gall plant gael archwiliadau fforensig wedi ymosodiad rhyw.
Cefnogaeth y Comisiynydd
Yn y gorffennol mae'r Comisiynydd Plant wedi galw am well gwasanaethau i blant ac mae'n cefnogi ymgyrch Ms Meftahi.
Yn ôl Sally Holland mae plant yn gorfod mynd trwy broses hir o archwiliadau meddygol a rhoi tystiolaeth mewn llys ac fe all y cyfan gael effaith ar eu gallu i ddod dros y trawma.
Dywedodd: "Yng Nghymru rhaid i ni gael y sylfaen yn iawn er y byddwn wrth fy modd yn cael model fel y tai plant.
"Rhaid gwneud yn siŵr fod plant sydd wedi dioddef ymosodiad rhyw yn cael eu gweld gan feddyg plant pwrpasol cyn gynted â phosib, rhaid sicrhau hefyd nad yw plant yn gorfod teithio'n rhy bell a bod modd iddynt gael therapi a gwellhad mor fuan â phosib."
Dywedodd hefyd fod plant yn aros yn rhy hir am ofal therapiwtig.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gwaith wedi dechrau i ddatblygu Cynllun Cenedlaethol i Atal ac Ymateb i Gamdrin Plant yn Rhywiol.
Ychwanegodd: "Dyw darparu archwilwyr meddygol fforensig ddim yn fater sydd wedi'i ddatganoli; er bod byrddau iechyd Cymru yn gweithio'n agos gyda'r heddlu a phartneriaid eraill er mwyn diogelu dioddefwyr.
"Mae'r broses o asesu tai plant yn Llundain yn mynd yn ei blaen ac ry'n yn aros i weld be ddaw o'r gwasanaethau peilot."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2015