Newidiadau i amserlen Radio Wales
- Cyhoeddwyd
Bydd rhaglenni newyddion Good Morning Wales a Good Evening Wales ar Radio Wales yn dod i ben yn sgil newidiadau i'r amserlen.
Wrth gyhoeddi'r newidiadau ddydd Iau, dywedodd golygydd yr orsaf, Colin Paterson mai'r gobaith yw creu amserlen sy'n "ddeallus, atyniadol... sydd wedi'i wreiddio ym bywydau a diddordebau" pobl ymhob rhan o Gymru.
Bydd rhaglen frecwast newydd o 13 Mai ymlaen yn cael ei chyflwyno gan Claire Summers o ddydd Llun i dydd Iau, ac Oliver Hides ar foreau Gwener a Sadwrn.
Bydd Gareth Lewis yn cyflwyno rhaglen newyddion ddiwedd y prynhawn am 17:00.
Her greadigol newydd
Daw'r cyhoeddiad wedi ffigyrau gwrando 'isaf erioed' yr orsaf ym mis Hydref 2018, ac wythnosau wedi penderfyniad cwmni Global Radio i ddod â nifer o'r raglenni boreol lleol ar eu rhwydwaith i ben.
Dywedodd Mr Paterson: "Er ei fod yn siom na fydd yna fwy o ddewis i wrandawyr yn y bore, mae'n rhoi her greadigol newydd i ni.
"Ein gwaith nawr yw'r rhaglen yma ar gyfer Cymru gyfan - rhaglen ddeallus, atyniadol, ac un sydd wedi'i wreiddio ym mywydau a diddordebau pobl ymhob rhan o'r wlad.
"Rydym yn barod amdani."
Dywedodd Ms Summers ei bod yn "edrych ymlaen at ymuno â'r tîm gan ddod â'r newyddion, safbwyntiau a thrafodaethau diweddaraf i fyrddau brecwast ar draws y wlad".
Gyda'r sioe frecwast newydd yn dechrau am 06:00 - hanner awr yn gynt na Good Morning Wales - bydd rhaglen Mal Pope yn dod i ben.
Dywedodd Mr Paterson: "Mae gan Mal berthynas hir gyda Radio Wales, yn fwyaf diweddar fel cyflwynydd y rhaglen ben bore, ac rwy'n ddiolchgar iddo am ei ymroddiad i'w raglen a'r gwrandawyr."
"Bydd yn dychwelyd i'r tonfeddi yn fuan, gan gynnwys darllediad o'i sioe theatr un dyn nes ymlaen eleni."
Mae Jason Mohammed, Dot Davies, Wynne Evans ac Eleri Siôn yn parhau i gyflwyno'u rhaglenni arferol yn ystod y dydd, gyda mân newidiadau i'r amseroedd darlledu.
Bydd Oliver Hides hefyd yn cyflwyno rhaglen materion cyfoes Radio Wales, 'Eye on Wales'.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd18 Mai 2017