Dubs: Angen i awdurdodau Cymru wneud mwy i ffoaduriaid
- Cyhoeddwyd
Dylai Llywodraeth Cymru a chynghorau sir fod yn gwneud mwy i gefnogi plant sy'n ffoaduriaid, yn ôl ymgyrchydd blaenllaw.
Mae ffigyrau a ryddhawyd o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod cynghorau Cymru wedi derbyn cyfanswm o 16 o blant sydd wedi dod i'r wlad heb riant.
Mae'r ffigyrau yn "siomedig" yn ôl yr Arglwydd Alf Dubs, a ysgogodd ddeddfwriaeth i gynnig taith ddiogel i Brydain i blant yng nghanol yr argyfwng mudo.
Ym mis Chwefror 2017 daeth cynllun gan y Swyddfa Gartref i ben ar ôl derbyn dim ond 350 o'r 3,000 o ffoaduriaid a gynlluniwyd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "cydymdeimlo" â phryderon yr Arglwydd Dubs.
Ychwanegodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod y pwysau ar wasanaethau plant wedi ei gwneud yn anodd i gynghorau dderbyn mwy o ffoaduriaid.
Mae Cyngor Caerdydd wedi rhoi lloches i 11 plentyn, cafodd dau gartref yn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg ac un ym Mhowys.
Wrth ymateb i'r ffigyrau ar raglen Newyddion 9, dywedodd yr Arglwydd Dubs: "Mae'n siomedig. Ond rydw i bob amser yn gobeithio y bydd cyfweliadau fel hyn yn annog awdurdodau lleol i ddweud y gallant wneud rhywbeth yn ei gylch."
"Mae'r Cymry yn bobl hael iawn, maen nhw'n ddyngarol iawn, mae'n mynd yn erbyn y traddodiad hwn yng Nghymru na ddylent fod yn gwneud hyn."
Galwodd Llywodraeth Cymru ar y Swyddfa Gartref i ddarparu mwy o arian.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt: "Rydyn ni'n cydymdeimlo â phryderon yr Arglwydd Dubs ynghylch lleoli plant sydd yn ceisio lloches.
"Mae ymchwil yn dangos mai dim ond 55% o'r costau gwirioneddol yw'r lefelau cyllido sy'n cael eu darparu gan y Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, ac nid oes darpariaeth ar gyfer costau cysylltiedig, fel gofal iechyd ac addysg."
Dywedodd y Parchedig Aled Edwards o fudiad Alltudion ar Waith fod 2,500 o ffoaduriaid wedi cael lloches yng Nghymru drwy ddosbarthiad y Swyddfa Gartref.
"Dwi'n derbyn yr her mae'r Arglwydd Dubs yn rhoi ond mae'n rhaid i ni fod yn deg â Chymru," meddai.
"Mi rydym ni i raddau wedi derbyn mwy na'n siâr i gymharu ag ardaloedd eraill o Brydain."
Ychwanegodd: "Fydda fo'n ddoeth i awdurdodau lleol beidio derbyn plant os nad ydyn nhw'n abl i'w derbyn nhw'n briodol."
'Gobeithio gallu derbyn mwy'
Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Roedd awdurdodau wedi gobeithio gallu derbyn mwy o blant dros amser ond mae'r pwyseddau ar wasanaethau plant yng Nghymru ar hyn o bryd, yn nhermau cynnydd mewn galw a chyllidebau'n crebachu, wedi gwneud hyn yn heriol iawn.
"Mae'r prinder mewn llety neu lefydd addas ar gyfer plant wedi profi i fod yn dramgwydd sylweddol i allu cynghorau i dderbyn a gofalu am fwy o blant, er bod yr ewyllys yn bodoli mewn sawl cyngor.
"Mae prinder gwasanaethau cefnogol addas, megis mynediad i gefnogaeth iechyd meddwl yn dilyn profiadau trawmatig, hefyd yn rwystr.
"Mae CLlLC wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru wrth geisio mynd i'r afael â'r rhwystrau yma a chefnogi cynghorau i allu gofalu am fwy o blant sy'n ffoaduriaid."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2017