Cwmni moduro i ddileu 95 o swyddi yn eu safle yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Safle Calsonic KanesiFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni yn cyflogi tua 300 o bobl yn eu safle yn Sir Gâr

Mae swyddi 95 o weithwyr cwmni cydrannau ceir yn Llanelli yn y fantol yn sgil "gostyngiad sylweddol mewn gwerthiant".

Mae'r cwmni o Japan, Calsonic Kansei yn cyflogi tua 300 o bobl yn eu safle yn Sir Gâr.

Cyhoeddodd y cwmni eu bod yn bwriadu creu 85 o swyddi ym mis Rhagfyr ar ôl cael cynnig grant o £4.4m gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chynhyrchu'r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer cerbydau electronig.

Mewn ymateb i gyhoeddiad y cwmni nos Fawrth fe ddywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates bod yna "ansefydlogrwydd difrifol" yn sgil Brexit.

Dywedodd AC Llanelli, Lee Waters y gallai'r cyhoeddiad fod "yn ddechre' proses wael ynglŷn â Brexit".

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru bod penderfyniad y cwmni yn "siomedig" a bod gan "bob gwleidydd" gyfrifoldeb am ansicrwydd Brexit.

'Marchnad ansefydlog'

Dywedodd is-lywydd Adnoddau Dynol y cwmni yn Ewrop, Neil O'Brien bod y diwydiant ceir yng nghanol "cyfnod trawsnewidiol" pan fo "cynhyrchwyr ceir yn datblygu technolegau i fodloni deddfwriaeth amgylcheddol gynyddol feichus ac yn symud i gyfeiriad cerbydau awtonomaidd a thrydanol".

"Mae pwysau ychwanegol ansefydlogrwydd y farchnad yn sgil yr amodau gwleidyddol ac economaidd wedi effeithio ar niferoedd archebion ein cwsmeriaid ac, o ganlyniad, mae gwerthiannau Calsonic Kansei wedi gostwng yn sylweddol," meddai.

"Gyda gofid y mae Calsonic Kansei wedi cyhoeddi cynigion heddiw am ddiswyddiadau ar draws ei hadrannau yn y DU, gyda'r potensial i effeithio ar 95 o swyddi yn y safle yn Llanelli.

"Mae'r cwmni'n bwriadu gwneud popeth sy'n rhesymol bosib i leihau effaith y cynnig hwn ar ei weithwyr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Calsonic Kansei yn cyflenwi cydrannau i Honda, sydd wedi penderfynu cau eu ffatri yn Swindon

Daw'r cyhoeddiad wythnosau wedi i'r cwmni cynhyrchu ceir, Schaeffler ddatgan bwriad i gau ei ffatri yn Llanelli gan ddiswyddo 220 o bobl.

Mae dyfodol ffatri pecynnu Tata Steel yn Nhrostre hefyd yn y fantol, gan beryglu 650 o swyddi.

Mae ffatri Calsonic Kansei ar agor ers 1943 ac yn cynhyrchu cydrannau fel rheiddiaduron ac oeryddion olew ar gyfer cwmnïau fel Toyota a Nissan.

Dywedodd yr AC Llafur dros Lanelli, Lee Waters, ei fod yn "poeni bod hyn yn ddechre' proses wael ynglŷn â Brexit".

Dywedodd bod "heriau mawr dros y diwydiant ceir i gyd" wedi effeithio ar y cwmni, gan fod Calsonic yn cyflenwi cwmnïau fel Honda a Jaguar Land Rover.

Ond ychwanegodd: "Mae yn debyg bod Brexit wedi 'neud gwahaniaeth y tro yma - mae datganiad y cwmni yn 'neud hynny'n glir."

'Newyddion drwg ar ôl newyddion drwg'

Yn ôl Paul Evans o undeb Unite, does "dim cefnogaeth gan y llywodraeth Dorïaidd" yn San Steffan.

Ychwanegodd: "Bydd y 95 o golledion swyddi yn cael effaith ddinistriol ar y dref a'r gymuned leol.

"Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r cwmni i geisio cyflawni'r lefel angenrheidiol o ddiswyddiadau mor ddi-boen ag y gallwn."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, bod trafferthion Jaguar Land Rover wedi cael effaith ar gyflenwyr fel Calsonic Kansei.

Pan ofynnwyd a oedd cyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU am benderfyniad y cwmni, dywedodd bod gan "bob gwleidydd ran i'w chwarae yn yr ansicrwydd sydd wedi ei greu" o amgylch Brexit.

Disgrifiad o’r llun,

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i gwmni Schaeffler ddatgan bwriad i gau ffatri yn Llanelli gan ddiswyddo 220 o bobl

Dywedodd Helen Mary Jones, AC Plaid Cymru dros y canolbarth a'r gorllewin, y byddai colli'r swyddi'n "ergyd eitha' difrifol".

"Mae'r newyddion yma'n dod yn dilyn newyddion drwg y llynedd gyda Schaeffler a bydden i'n galw ar Lywodraeth Cymru y bore 'ma i gael cipolwg difrifol ar yr holl economi yn Llanelli.

"Mae'n teimlo ar hyn o bryd bod newyddion drwg ar ôl newyddion drwg ar ôl newyddion drwg.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru gamu mewn i weld os allwn ni wneud unrhyw beth i ddarbwyllo'r cwmni i arbed y swyddi yma."

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates fod y newyddion "yn siomedig eithriadol i'r gweithwyr, eu teuluoedd ac i'r dref.

"Mae'r newyddion yma ond yn tanlinellu'r angen hanfodol i Lywodraeth y DU ddeall yr ansefydlogrwydd difrifol y mae Brexit yn ei achosi i'r economi a chanlyniadau eu trafodaethau diffygiol o ran swyddi a buddsoddiad."

Ychwanegodd y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda rheolwyr, undebau llafur a staff i roi cefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu colli eu gwaith.