Ymgyrch Heddlu Dyfed-Powys i daclo partïon anghyfreithlon

  • Cyhoeddwyd
BrechfaFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y rêf ym Mrechfa y llynedd arwain at ymgyrch sylweddol i lanhau'r safle, yn ôl CNC

Mae'r heddlu wedi apelio am gymorth y cyhoedd wrth fynd ati i daclo'r cynnydd mewn partïon anghyfreithlon.

Fel rhan o ymgyrch 'OpFlamenco', mae Heddlu Dyfed-powys wedi gofyn i bobl sy'n byw yn ardaloedd gwledig Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys i'w hysbysu am unrhyw ymddygiad amheus.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r awdurdodau wedi gorfod ymateb i ddau ddigwyddiad amlwg ym Mrechfa ac yn Nhregaron.

Dywedodd yr Uwch-Arolygydd, Craig Templeton: "Mae partïon anghyfreithlon yn gallu achosi pryder mawr o fewn cymunedau, ac os nad ydyn ni'n delio â nhw yn sydyn yna maen nhw'n anodd iawn i'w stopio."

Yn ôl datganiad yr heddlu, byddai gwybodaeth y trigolion lleol yn eu galluogi i ymateb yn gynt er mwyn rhwystro'r digwyddiadau i dyfu i faint sylweddol.

Ychwanegodd Mr Templeton: "Mae'r digwyddiadau hyn yn cael eu trefnu'n ofalus er mwyn osgoi sylw'r heddlu, ac mae'r trefnwyr wastad yn ceisio canfod ffyrdd newydd o aros yn anhysbys.

"Rydyn ni'n dibynnu ar gymunedau i roi gwybod am unrhyw ymddygiad amheus fel ein bod ni'n gallu gweithredu ar frys."

Dywedodd Dai Rees, rhan o dîm rheoli tir Cyfoeth Naturiol Cymru: "Fe wnaeth rêf anghyfreithlon ym Mrechfa y llynedd achosi pryder gwirioneddol i'r bobl leol, ond fe arweiniodd at ymgyrch sylweddol i lanhau'r safle yn ogystal.

"Rydyn ni wedi ymateb i'r digwyddiad hwnnw drwy gyflwyno giatiau newydd ger sawl pwynt mynediad i'r goedwig, ac rydyn ni hefyd yn cynyddu faint o weithiau rydyn ni'n ymweld â'r safle er mwyn ei amddiffyn."